Philipiaid 1:1-4
Philipiaid 1:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Llythyr gan Paul a Timotheus – gweision i’r Meseia Iesu. At bawb yn Philipi sy’n bobl i Dduw ac yn perthyn i’r Meseia Iesu, ac at yr arweinwyr a’r rhai sy’n gwasanaethu yn yr eglwys: Dw i’n gweddïo y byddwch chi’n profi’r haelioni rhyfeddol a’r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni. Bob tro dw i’n meddwl amdanoch chi dw i’n diolch i Dduw am bob un ohonoch chi. Dw i’n gweddïo’n daer drosoch chi, ac yn teimlo mor llawen wrth wneud hynny
Philipiaid 1:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Paul a Timotheus, gweision Crist Iesu, at yr holl saint yng Nghrist Iesu sydd yn Philipi, ynghyd â'r arolygwyr a'r diaconiaid. Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist. Byddaf yn diolch i'm Duw bob tro y byddaf yn cofio amdanoch, a phob amser ym mhob un o'm gweddïau dros bob un ohonoch, yr wyf yn gweddïo gyda llawenydd.
Philipiaid 1:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Paul a Thimotheus, gweision Iesu Grist, at yr holl saint yng Nghrist Iesu y rhai sydd yn Philipi, gyda’r esgobion a’r diaconiaid: Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Arglwydd Iesu Grist. I’m Duw yr ydwyf yn diolch ym mhob coffa amdanoch, Bob amser ym mhob deisyfiad o’r eiddof drosoch chwi oll, gan wneuthur fy neisyfiad gyda llawenydd