Philemon 1:8-14
Philemon 1:8-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyna pam dw i am ofyn ffafr i ti. Gallwn i siarad yn blaen a dweud wrthot ti beth i’w wneud, gan bod yr awdurdod wedi’i roi i mi gan y Meseia. Ond am fy mod i’r math o berson ydw i – Paul yr hen ddyn bellach, ac yn y carchar dros achos y Meseia Iesu – mae’n well gen i apelio atat ti ar sail cariad. Dw i’n apelio ar ran Onesimws, sydd fel mab i mi yn y ffydd. Ydw, dw i wedi’i arwain e i gredu tra dw i wedi bod yma yn y carchar. ‘Defnyddiol’ ydy ystyr ei enw, ac mae’n haeddu’r enw bellach, er mai ‘diwerth’ fyddai’r enw gorau iddo o’r blaen. A bellach mae’n ddefnyddiol i mi yn ogystal ag i ti. Er ein bod ni wedi dod yn ffrindiau mor glòs dw i’n ei anfon yn ôl atat ti. Byddwn i wrth fy modd yn ei gadw yma, iddo fy helpu i ar dy ran di tra dw i mewn cadwyni dros y newyddion da. Ond dy ddewis di fyddai hynny a byddai’n rhaid i ti gytuno – dw i ddim am dy orfodi di i wneud dim byd.
Philemon 1:8-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gan hynny, er bod gennyf berffaith ryddid yng Nghrist i roi gorchymyn i ti ynglŷn â'th ddyletswydd, yr wyf yn hytrach, ar sail cariad, yn apelio atat. Ie, myfi, Paul, a mi'n llysgennad Crist Iesu, ac yn awr hefyd yn garcharor drosto, apelio yr wyf atat ar ran fy mhlentyn, Onesimus, un y deuthum yn dad iddo yn y carchar. Bu ef gynt yn ddi-fudd i ti, ond yn awr y mae'n fuddiol iawn i ti ac i minnau. Yr wyf yn ei anfon yn ôl atat, ac yntau bellach yn rhan ohonof fi. Mi hoffwn ei gadw gyda mi, er mwyn iddo weini arnaf yn dy le di tra byddaf yng ngharchar o achos yr Efengyl. Ond ni fynnwn wneud dim heb dy gydsyniad di, rhag i'th garedigrwydd fod o orfod, nid o wirfodd.
Philemon 1:8-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oherwydd paham, er bod gennyf hyfdra lawer yng Nghrist, i orchymyn i ti y peth sydd weddus: Eto o ran cariad yr ydwyf yn hytrach yn atolwg, er fy mod yn gyfryw un â Phaul yr hynafgwr, ac yr awron hefyd yn garcharor Iesu Grist. Yr ydwyf yn atolwg i ti dros fy mab Onesimus, yr hwn a genhedlais i yn fy rhwymau: Yr hwn gynt a fu i ti yn anfuddiol, ond yr awron yn fuddiol i ti ac i minnau hefyd; Yr hwn a ddanfonais drachefn: a derbyn dithau ef, yr hwn yw fy ymysgaroedd i: Yr hwn yr oeddwn i yn ewyllysio ei ddal gyda mi, fel drosot ti y gwasanaethai efe fi yn rhwymau yr efengyl. Eithr heb dy feddwl di nid ewyllysiais wneuthur dim; fel na byddai dy ddaioni di megis o anghenraid, ond o fodd.