Philemon 1:15-16
Philemon 1:15-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’n bosib mai’r rheswm pam gawsoch chi eich gwahanu am ychydig oedd er mwyn i ti ei gael yn ôl am byth! Dim fel caethwas o hyn ymlaen, ond yn llawer gwell na hynny – fel ffrind annwyl sy’n credu yn Iesu Grist yr un fath â ti. Mae wedi bod yn werthfawr iawn i mi, ond bydd yn fwy gwerthfawr fyth i ti, fel gwas ac fel brawd sydd fel ti yn credu yn yr Arglwydd.
Philemon 1:15-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Efallai, yn wir, mai dyma'r rheswm iddo gael ei wahanu oddi wrthyt dros dro, er mwyn iti ei dderbyn yn ôl am byth, nid fel caethwas mwyach ond fel un sy'n fwy na chaethwas, yn frawd annwyl—annwyl iawn i mi, ond anwylach fyth i ti, fel dyn ac fel Cristion.
Philemon 1:15-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys ysgatfydd er mwyn hyn yr ymadawodd dros amser, fel y derbynnit ef yn dragywydd; Nid fel gwas bellach, eithr uwchlaw gwas, yn frawd annwyl, yn enwedig i mi; eithr pa faint mwy i ti, yn y cnawd ac yn yr Arglwydd hefyd?