Philemon 1:1-7
Philemon 1:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Llythyr gan Paul, sydd yn y carchar dros achos y Meseia Iesu. Mae’r brawd Timotheus yn anfon ei gyfarchion hefyd. At Philemon, ein ffrind annwyl sy’n gweithio gyda ni. A hefyd at y chwaer Apffia, ac at Archipus sy’n gyd-filwr dros achos Iesu gyda ni. Cofia ni hefyd at bawb arall yn yr eglwys sy’n cyfarfod yn dy gartref di. Dw i’n gweddïo y byddwch chi’n profi’r haelioni rhyfeddol a’r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni. Fy ffrind annwyl, dw i’n diolch i Dduw amdanat ti bob tro dw i’n gweddïo drosot ti. Dw i wedi clywed am dy ffyddlondeb di i’r Arglwydd Iesu ac am y ffordd rwyt ti’n gofalu am bawb arall sy’n credu ynddo. Dw i’n gweddïo y bydd dy haelioni di wrth rannu gydag eraill yn cynyddu wrth i ti ddod i ddeall yn well gymaint o fendithion sydd gynnon ni yn ein perthynas â’r Meseia. Mae dy gariad di wedi bod yn galondid ac yn achos llawenydd mawr i mi, ffrind annwyl, ac rwyt ti wedi bod yn gyfrwng i galonogi’r Cristnogion eraill hefyd.
Philemon 1:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Paul, carcharor Crist Iesu, a Timotheus ein brawd, at Philemon, ein cydweithiwr annwyl, ac Apffia, ein chwaer, ac Archipus, ein cydfilwr; ac at yr eglwys sy'n ymgynnull yn dy dŷ. Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist. Yr wyf yn diolch i'm Duw bob amser wrth gofio amdanat yn fy ngweddïau, oherwydd fy mod yn clywed am dy gariad, a'r ffydd sydd gennyt tuag at yr Arglwydd Iesu ac at yr holl saint. Yr wyf yn deisyf y bydd y ffydd, sy'n gyffredin i ti a ninnau, yn gyfrwng effeithiol i ddyfnhau dealltwriaeth o'r holl ddaioni sy'n eiddo i ni yng Nghrist. Oherwydd cefais lawer o lawenydd a symbyliad trwy dy gariad, gan fod calonnau'r saint wedi eu llonni drwot ti, fy mrawd.
Philemon 1:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Paul, carcharor Crist Iesu, a’r brawd Timotheus, at Philemon ein hanwylyd, a’n cyd-weithiwr, Ac at Apffia ein hanwylyd, ac at Archipus ein cyd-filwr, ac at yr eglwys sydd yn dy dŷ di: Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist. Yr wyf yn diolch i’m Duw, gan wneuthur coffa amdanat yn wastadol yn fy ngweddïau, Wrth glywed dy gariad, a’r ffydd sydd gennyt tuag at yr Arglwydd Iesu, a thuag at yr holl saint; Fel y gwneler cyfraniad dy ffydd di yn nerthol, trwy adnabod pob peth daionus a’r sydd ynoch chwi yng Nghrist Iesu. Canys y mae gennym lawer o lawenydd a diddanwch yn dy gariad di, herwydd bod ymysgaroedd y saint wedi eu llonni trwot ti, frawd.