Numeri 26:1-4
Numeri 26:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar ôl i’r pla orffen, dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, ac wrth Eleasar fab Aaron, yr offeiriad: “Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad arall o bobl Israel – pawb o bob llwyth sydd dros ugain oed ac yn gallu ymuno â’r fyddin.” Ar y pryd, roedd pobl Israel yn gwersylla ar wastatir Moab, wrth ymyl afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho. A dyma Moses ac Eleasar yn dweud wrthyn nhw, “Rhaid cyfrif pawb dros ugain oed.” Dyna oedd yr ARGLWYDD wedi’i orchymyn i Moses. A dyma bobl Israel ddaeth allan o wlad yr Aifft
Numeri 26:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ar ôl y pla dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac wrth Eleasar fab Aaron yr offeiriad, “Gwnewch gyfrifiad o holl gynulliad pobl Israel yn ôl eu tylwythau, gan restru pawb yn Israel sy'n ugain oed a throsodd, ac yn abl i fynd i ryfel.” Felly dywedodd Moses ac Eleasar yr offeiriad wrth y bobl yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen, am restru'r rhai oedd yn ugain oed a throsodd, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Dyma'r Israeliaid a ddaeth allan o wlad yr Aifft
Numeri 26:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bu, wedi’r pla, lefaru o’r ARGLWYDD wrth Moses, ac wrth Eleasar mab Aaron yr offeiriad, gan ddywedyd, Cymerwch nifer holl gynulleidfa meibion Israel, o fab ugain mlwydd ac uchod, trwy dŷ eu tadau, pob un a allo fyned i ryfel yn Israel. A llefarodd Moses ac Eleasar yr offeiriad wrthynt yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho, gan ddywedyd Rhifwch y bobl, o fab ugain mlwydd ac uchod; megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses, a meibion Israel, y rhai a ddaethant allan o dir yr Aifft.