Numeri 25:1-18
Numeri 25:1-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan oedd pobl Israel yn aros yn Sittim, dyma’r dynion yn dechrau cael rhyw gyda merched Moab. Roedd y merched wedi’u gwahodd nhw i wyliau crefyddol eu duwiau. A dyma nhw’n gwledda gyda nhw a dechrau addoli eu duwiau. Cyn pen dim, roedd Israel wedi uno gyda Baal-peor. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwylltio’n lân gyda phobl Israel, a dyma fe’n dweud wrth Moses, “Rhaid i ti arestio’r rhai sydd wedi arwain y drwg yma, a’u lladd nhw o flaen yr ARGLWYDD ganol dydd, er mwyn i’r ARGLWYDD beidio bod mor wyllt gydag Israel.” Felly dyma Moses yn dweud wrth arweinwyr llwythau Israel, “Rhaid i chi ddienyddio’r dynion yn eich llwyth chi sydd wedi ymuno i addoli Baal-peor.” Wrth iddo ddweud hyn, a phobl Israel yn wylo a galaru o flaen y fynedfa i babell presenoldeb Duw, dyma un o ddynion Israel yn dod ag un o ferched y Midianiaid i’r gwersyll. Gwelodd Moses a phawb y peth yn digwydd. A dyma Phineas (mab Eleasar yr offeiriad, ac ŵyr Aaron) yn codi a gafael mewn gwaywffon, a mynd ar ôl y dyn i’r babell. A dyma fe’n gwthio’r waywffon drwy’r ddau ohonyn nhw – drwy’r dyn ac i mewn i stumog y ferch. A dyma’r pla oedd yn lledu drwy ganol pobl Israel yn stopio. Roedd 24,000 o bobl wedi marw o’r pla. Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Mae Phineas, mab Eleasar ac ŵyr Aaron yr offeiriad, wedi tawelu fy llid yn erbyn Israel. Dangosodd y fath sêl drosto i, wnes i ddim bwrw ymlaen i ddinistrio pobl Israel i gyd. Felly dywed wrtho fy mod yn gwneud ymrwymiad o heddwch gydag e; ymrwymiad mai fe a’i ddisgynyddion fydd yn offeiriaid am byth. Am ei fod wedi dangos y fath sêl dros ei Dduw, ac wedi gwneud pethau’n iawn rhwng Duw a phobl Israel.” Enw’r dyn gafodd ei ladd ganddo – y dyn gafodd ei drywanu gyda’r ferch o Midian – oedd Simri fab Salw, pennaeth teulu o lwyth Simeon. Ac enw’r ferch o Midian oedd Cosbi, merch Swr, pennaeth un o lwythau Midian. A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dw i am i chi drin y Midianiaid fel gelynion, a’u dinistrio nhw. Maen nhw wedi dod yn elynion i chi drwy eich denu chi i addoli y Baal o Peor. A hefyd drwy beth ddigwyddodd gyda Cosbi, merch un o’u tywysogion nhw gafodd ei lladd y diwrnod roedd y pla yn lledu o achos Peor.”
Numeri 25:1-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan oedd Israel yn aros yn Sittim, dechreuodd y bobl odinebu gyda merched Moab. Yr oedd y rhain yn eu gwahodd i'r aberthau i'w duwiau, a bu'r bobl yn bwyta ac yn ymgrymu i dduwiau Moab. Dyma sut y daeth Israel i gyfathrach â Baal-peor. Enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel, a dywedodd wrth Moses am gymryd holl benaethiaid y bobl a'u crogi gerbron yr ARGLWYDD yn wyneb haul, er mwyn i'w lid droi oddi wrth Israel. Yna dywedodd Moses wrth farnwyr Israel, “Y mae pob un ohonoch i ladd y rhai o'i lwyth a fu'n cyfathrachu â Baal-peor.” Yna daeth un o'r Israeliaid â merch o Midian at ei deulu, a hynny yng ngŵydd Moses a holl gynulliad pobl Israel, fel yr oeddent yn wylo wrth ddrws pabell y cyfarfod. Pan welodd Phinees fab Eleasar, fab Aaron yr offeiriad, hyn, fe gododd o ganol y cynulliad, a chymerodd waywffon yn ei law, a dilyn yr Israeliad i mewn i'r babell; yna gwanodd hwy ill dau, sef y dyn a hefyd y ferch trwy ei chylla. Felly yr ataliwyd y pla oddi wrth bobl Israel. Er hyn, bu farw pedair mil ar hugain trwy'r pla. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Y mae Phinees fab Eleasar, fab Aaron yr offeiriad, wedi troi fy llid oddi wrth bobl Israel; ni ddistrywiais hwy yn fy eiddigedd, oherwydd bu ef yn eiddigeddus drosof fi ymhlith y bobl. Felly dywed, ‘Rhoddaf iddo fy nghyfamod heddwch, a bydd ganddo ef a'i ddisgynyddion gyfamod am offeiriadaeth dragwyddol, am iddo fod yn eiddigeddus dros ei Dduw, a gwneud cymod dros bobl Israel.’ ” Enw'r Israeliad a drywanwyd gyda'r ferch o Midian oedd Simri fab Salu, penteulu o lwyth Simeon. Enw'r ferch o Midian a drywanwyd oedd Cosbi ferch Sur, a oedd yn bennaeth dros dylwyth o bobl Midian. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dos i boenydio'r Midianiaid a'u lladd, oherwydd buont hwy'n eich poenydio chwi trwy eu dichell yn yr achos ynglŷn â Peor, ac yn yr achos ynglŷn â'u chwaer Cosbi, merch pennaeth o Midian, a drywanwyd yn nydd y pla o achos Peor.”
Numeri 25:1-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A thrigodd Israel yn Sittim; a dechreuodd y bobl odinebu gyda merched Moab. A galwasant y bobl i aberthau eu duwiau hwynt; a bwytaodd y bobl, ac addolasant eu duwiau hwynt. Ac ymgyfeillodd Israel â Baal-peor; ac enynnodd digofaint yr ARGLWYDD yn erbyn Israel. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Cymer holl benaethiaid y bobl, a chrog hwynt i’r ARGLWYDD ar gyfer yr haul; fel y dychwelo llid digofaint yr ARGLWYDD oddi wrth Israel. A dywedodd Moses wrth farnwyr Israel, Lleddwch bob un ei ddynion, y rhai a ymgyfeillasant â Baal-peor. Ac wele, gŵr o feibion Israel a ddaeth, ac a ddygodd Fidianees at ei frodyr, yng ngolwg Moses, ac yng ngolwg holl gynulleidfa meibion Israel, a hwynt yn wylo wrth ddrws pabell y cyfarfod. A gwelodd Phinees mab Eleasar, mab Aaron yr offeiriad; ac a gododd o ganol y gynulleidfa, ac a gymerodd waywffon yn ei law; Ac a aeth ar ôl y gŵr o Israel i’r babell; ac a’u gwanodd hwynt ill dau, sef y gŵr o Israel, a’r wraig trwy ei cheudod. Ac ataliwyd y pla oddi wrth feibion Israel. A bu feirw o’r pla bedair mil ar hugain. A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd, Phinees mab Eleasar, mab Aaron yr offeiriad, a drodd fy nicter oddi wrth feibion Israel, (pan eiddigeddodd efe drosof fi yn eu mysg,) fel na ddifethais feibion Israel yn fy eiddigedd. Am hynny dywed, Wele fi yn rhoddi iddo fy nghyfamod o heddwch. A bydd iddo ef, ac i’w had ar ei ôl ef, amod o offeiriadaeth dragwyddol; am iddo eiddigeddu dros ei DDUW, a gwneuthur cymod dros feibion Israel. Ac enw y gŵr o Israel, yr hwn a laddwyd, sef yr hwn a laddwyd gyda’r Fidianees, oedd Simri, mab Salu, pennaeth tŷ ei dad, o lwyth Simeon. Ac enw y wraig o Midian a laddwyd, oedd Cosbi, merch Sur: pencenedl o dŷ mawr ym Midian oedd hwn. A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd, Blina’r Midianiaid, a lleddwch hwynt: Canys blin ydynt arnoch trwy eu dichellion a ddychmygasant i’ch erbyn, yn achos Peor, ac yn achos Cosbi, merch tywysog Midian, eu chwaer hwynt, yr hon a laddwyd yn nydd y pla, o achos Peor.