Numeri 21:1-9
Numeri 21:1-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma frenin Canaaneaidd Arad, oedd yn byw yn y Negef, yn clywed fod Israel yn dod ar y ffordd i Atharîm. Felly dyma fe’n ymosod arnyn nhw, ac yn cymryd rhai o bobl Israel yn gaeth. Dyma bobl Israel yn gwneud adduned i’r ARGLWYDD, “Os gwnei di’n helpu ni i goncro’r bobl yma, gwnawn ni ddinistrio’u trefi nhw’n llwyr.” Dyma’r ARGLWYDD yn ateb eu gweddi nhw, a dyma nhw’n concro’r Canaaneaid a dinistrio’u trefi nhw’n llwyr. A dyma nhw’n galw’r lle yn Horma (sef ‘Dinistr’). Dyma nhw’n teithio o Fynydd Hor ar hyd ffordd y Môr Coch, er mwyn mynd o gwmpas tir Edom. Ond ar y ffordd dyma nhw’n dechrau teimlo’n flin a diamynedd. A dyma nhw’n dechrau cwyno eto, a dweud pethau yn erbyn Duw a Moses. “Pam dych chi wedi dod â ni allan o’r Aifft i farw yn yr anialwch yma? Does dim bwyd yma, na dŵr, a dŷn ni’n casáu’r stwff diwerth yma!” Felly dyma’r ARGLWYDD yn anfon nadroedd gwenwynig i’w canol nhw. Cafodd lot o bobl eu brathu, a buon nhw farw. A dyma’r bobl yn dod at Moses a dweud, “Dŷn ni wedi pechu drwy ddweud pethau yn erbyn yr ARGLWYDD ac yn dy erbyn di. Plîs gweddïa y bydd yr ARGLWYDD yn cymryd y nadroedd yma i ffwrdd.” Felly dyma Moses yn gweddïo dros y bobl. A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Gwna ddelw o neidr, a’i chodi ar bolyn. Wedyn, pan fydd rhywun sydd wedi’i frathu yn edrych arni, bydd yn cael byw.” A dyma Moses yn gwneud neidr bres a’i chodi ar bolyn. Wedyn os oedd neidr yn brathu rhywun, pan fyddai’r person hwnnw’n edrych ar y neidr bres, byddai’n cael byw.
Numeri 21:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan glywodd brenin Arad, y Canaanead oedd yn byw yn y Negef, fod yr Israeliaid yn dod ar hyd ffordd Atharaim, ymosododd arnynt a chymryd rhai ohonynt yn garcharorion. Gwnaeth Israel adduned i'r ARGLWYDD, a dweud, “Os rhoddi di'r bobl hyn yn ein dwylo, yna fe ddinistriwn eu dinasoedd yn llwyr.” Gwrandawodd yr ARGLWYDD ar gri Israel, a rhoddodd y Canaaneaid yn eu dwylo; dinistriodd yr Israeliaid hwy a'u dinasoedd, ac felly y galwyd y lle yn Horma. Yna aeth yr Israeliaid o Fynydd Hor ar hyd ffordd y Môr Coch, ac o amgylch gwlad Edom. Dechreuodd y bobl fod yn anniddig ar y daith, a siarad yn erbyn Duw a Moses, a dweud, “Pam y daethoch â ni o'r Aifft i farw yn yr anialwch? Nid oes yma na bwyd na diod, ac y mae'n gas gennym y bwyd gwael hwn.” Felly anfonodd yr ARGLWYDD seirff gwenwynig ymysg y bobl, a bu nifer o'r Israeliaid farw wedi iddynt gael eu brathu ganddynt. Yna daeth y bobl at Moses, a dweud, “Yr ydym wedi pechu trwy siarad yn erbyn yr ARGLWYDD ac yn dy erbyn di; gweddïa ar i'r ARGLWYDD yrru'r seirff ymaith oddi wrthym.” Felly gweddïodd Moses ar ran y bobl, a dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Gwna sarff a'i gosod ar bolyn, a bydd pawb a frathwyd, o edrych arni, yn cael byw.” Felly gwnaeth Moses sarff bres, a'i gosod ar bolyn, a phan fyddai rhywun yn cael ei frathu gan sarff, byddai'n edrych ar y sarff bres, ac yn byw.
Numeri 21:1-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r brenin Arad, y Canaanead, preswylydd y deau, a glybu fod Israel yn dyfod ar hyd ffordd yr ysbïwyr; ac a ryfelodd yn erbyn Israel, ac a ddaliodd rai ohonynt yn garcharorion. Ac addunodd Israel adduned i’r ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Os gan roi y rhoddi y bobl yma yn fy llaw, yna mi a ddifrodaf eu dinasoedd hwynt. A gwrandawodd yr ARGLWYDD ar lais Israel; ac a roddodd y Canaaneaid yn ei law ef; ac efe a’u difrododd hwynt, a’u dinasoedd; ac a alwodd enw y lle hwnnw Horma. A hwy a aethant o fynydd Hor, ar hyd ffordd y môr coch, i amgylchu tir Edom: a chyfyng ydoedd ar enaid y bobl, oherwydd y ffordd. A llefarodd y bobl yn erbyn DUW, ac yn erbyn Moses, Paham y dygasoch ni o’r Aifft, i farw yn yr anialwch? canys nid oes na bara na dwfr; a ffiaidd yw gan ein henaid y bara gwael hwn. A’r ARGLWYDD a anfonodd ymysg y bobl seirff tanllyd; a hwy a frathasant y bobl: a bu feirw o Israel bobl lawer. A daeth y bobl at Moses, a dywedasant Pechasom; canys llefarasom yn erbyn yr ARGLWYDD, ac yn dy erbyn dithau: gweddïa ar yr ARGLWYDD, ar yrru ohono ef y seirff oddi wrthym. A gweddïodd Moses dros y bobl. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Gwna i ti sarff danllyd, a gosod ar drostan: a phawb a frather, ac a edrycho ar honno, fydd byw. A gwnaeth Moses sarff bres, ac a’i gosododd ar drostan: yna os brathai sarff ŵr, ac edrych ohono ef ar y sarff bres, byw fyddai.