Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Numeri 20:1-13

Numeri 20:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma bobl Israel i gyd yn cyrraedd anialwch Sin. Roedd hyn yn y mis cyntaf, a dyma nhw’n aros yn Cadesh. Dyna lle buodd Miriam farw, a lle cafodd ei chladdu. Doedd dim dŵr i’r bobl yno, a dyma nhw’n casglu at ei gilydd yn erbyn Moses ac Aaron. A dyma nhw’n dechrau ffraeo gyda Moses: “Byddai lot gwell petaen ni wedi marw o flaen yr ARGLWYDD gyda’n brodyr! Pam wyt ti wedi dod â phobl yr ARGLWYDD i’r anialwch yma? Er mwyn i ni a’n hanifeiliaid farw yma? Pam wnest ti ddod â ni allan o’r Aifft i’r lle ofnadwy yma? Does dim cnydau’n tyfu yma, dim ffigys, gwinwydd na phomgranadau. Does dim hyd yn oed dŵr i’w yfed!” Dyma Moses ac Aaron yn mynd oddi wrth y bobl at y fynedfa i babell presenoldeb Duw. A dyma nhw’n plygu yno a’u hwynebau ar lawr. A dyma nhw’n gweld ysblander yr ARGLWYDD yno. Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Cymer dy ffon. Dw i eisiau i ti ac Aaron dy frawd gasglu’r bobl i gyd at ei gilydd. Yna, o flaen pawb, dw i eisiau i ti orchymyn i’r graig roi dŵr. Yna bydd dŵr yn tywallt o’r graig, a bydd y bobl a’r anifeiliaid yn cael yfed ohono.” Felly dyma Moses yn cymryd y ffon o’r lle roedd yn cael ei chadw o flaen yr ARGLWYDD. A dyma Moses ac Aaron yn galw’r bobl at ei gilydd o flaen y graig. Dyma fe’n dweud wrthyn nhw, “Gwrandwch, chi rebeliaid! Oes rhaid i ni ddod â dŵr allan o’r graig yma i chi?” A dyma Moses yn codi ei law ac yn taro’r graig ddwywaith gyda’r ffon, a dyma’r dŵr yn llifo allan ohoni. Cafodd y bobl a’r anifeiliaid ddigonedd i’w yfed. Ond dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron, “Am eich bod chi ddim wedi trystio fi ddigon i ddangos i bobl Israel fy mod i’n wahanol, fyddwch chi ddim yn cael arwain y bobl yma i’r wlad dw i’n ei rhoi iddyn nhw.” Cafodd y lle ei alw yn ‘Ffynnon Meriba’, lle roedd y bobl wedi dadlau gyda’r ARGLWYDD, ac yntau wedi dangos iddyn nhw ei fod e i gael ei anrhydeddu, yn Dduw sanctaidd, gwahanol.

Numeri 20:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yn y mis cyntaf daeth holl gynulleidfa pobl Israel i anialwch Sin, ac arhosodd y bobl yn Cades; yno y bu Miriam farw, ac yno y claddwyd hi. Nid oedd dŵr ar gyfer y gynulleidfa, ac felly ymgynullasant yn erbyn Moses ac Aaron. Dechreuasant ymryson â Moses, a dweud, “O na fyddem ninnau wedi marw pan fu farw ein cymrodyr gerbron yr ARGLWYDD! Pam y daethost â chynulleidfa'r ARGLWYDD i'r anialwch hwn i farw gyda'n hanifeiliaid? Pam y daethost â ni allan o'r Aifft a'n harwain i'r lle drwg hwn? Nid oes yma rawn, na ffigys, na gwinwydd, na phomgranadau, na hyd yn oed ddŵr i'w yfed.” Yna aeth Moses ac Aaron o ŵydd y gynulleidfa at ddrws pabell y cyfarfod, ac ymgrymu. Ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD iddynt, a dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Cymer y wialen, a chynnull y gynulleidfa gyda'th frawd Aaron, ac yn eu gŵydd dywed wrth y graig am ddiferu dŵr; yna byddi'n tynnu dŵr o'r graig ar eu cyfer ac yn ei roi i'r gynulleidfa a'i hanifeiliaid i'w yfed.” Felly cymerodd Moses y wialen oedd o flaen yr ARGLWYDD, fel y gorchmynnwyd iddo. Cynullodd Moses ac Aaron y gynulleidfa o flaen y graig, a dweud wrthynt, “Gwrandewch, yn awr, chwi wrthryfelwyr; a ydych am inni dynnu dŵr i chwi allan o'r graig hon?” Yna cododd Moses ei law, ac wedi iddo daro'r graig ddwywaith â'i wialen, daeth llawer o ddŵr allan, a chafodd y gynulleidfa a'u hanifeiliaid yfed ohono. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, “Am i chwi beidio â chredu ynof, na'm sancteiddio yng ngŵydd pobl Israel, ni fyddwch yn dod â'r gynulleidfa hon i mewn i'r wlad a roddais iddynt.” Dyma ddyfroedd Meriba, lle y bu'r Israeliaid yn ymryson â'r ARGLWYDD, a lle y datguddiodd ei hun yn sanctaidd iddynt.

Numeri 20:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A meibion Israel, sef yr holl gynulleidfa, a ddaethant i anialwch Sin, yn y mis cyntaf; ac arhodd y bobl yn Cades; yno hefyd y bu farw Miriam: ac yno y claddwyd hi. Ac nid oedd dwfr i’r gynulleidfa: a hwy a ymgasglasant yn erbyn Moses ac Aaron. Ac ymgynhennodd y bobl â Moses, a llefarasant, gan ddywedyd, O na buasem feirw pan fu feirw ein brodyr gerbron yr ARGLWYDD! Paham y dygasoch gynulleidfa yr ARGLWYDD i’r anialwch hwn, i farw ohonom ni a’n hanifeiliaid ynddo? A phaham y dygasoch ni i fyny o’r Aifft, i’n dwyn ni i’r lle drwg yma? lle heb had, na ffigysbren, na gwinwydden, na phomgranatbren, ac heb ddwfr i’w yfed? A daeth Moses ac Aaron oddi gerbron y gynulleidfa, i ddrws pabell y cyfarfod; ac a syrthiasant ar eu hwynebau: a gogoniant yr ARGLWYDD a ymddangosodd iddynt. A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd, Cymer y wialen, a chasgl y gynulleidfa ti ac Aaron dy frawd; ac yn eu gŵydd hwynt lleferwch wrth y graig, a hi a rydd ei dwfr: a thyn dithau iddynt ddwfr o’r graig, a dioda’r gynulleidfa a’u hanifeiliaid. A Moses a gymerodd y wialen oddi gerbron yr ARGLWYDD, megis y gorchmynasai efe iddo. A Moses ac Aaron a gynullasant y dyrfa ynghyd o flaen y graig: ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch yn awr, chwi wrthryfelwyr; Ai o’r graig hon y tynnwn i chwi ddwfr? A Moses a gododd ei law, ac a drawodd y graig ddwy waith â’i wialen: a daeth dwfr lawer allan; a’r gynulleidfa a yfodd, a’u hanifeiliaid hefyd. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, ac wrth Aaron, Am na chredasoch i mi, i’m sancteiddio yng ngŵydd meibion Israel: am hynny ni ddygwch y dyrfa hon i’r tir a roddais iddynt. Dyma ddyfroedd Meriba; lle yr ymgynhennodd meibion Israel â’r ARGLWYDD, ac y sancteiddiwyd ef ynddynt.