Numeri 13:26-29
Numeri 13:26-29 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dyma nhw’n mynd yn ôl i Cadesh yn anialwch Paran, at Moses ac Aaron a phobl Israel. A dyma nhw’n dweud wrth y bobl beth roedden nhw wedi’i weld, ac yn dangos y ffrwyth roedden nhw wedi ei gario yn ôl. Dyma nhw’n dweud wrth Moses, “Aethon ni i’r wlad lle gwnest ti’n hanfon ni. Mae’n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo! A dyma beth o’i ffrwyth. Ond mae’r bobl sy’n byw yno yn gryfion, ac maen nhw’n byw mewn trefi caerog mawr. Ac yn waeth na hynny, mae disgynyddion Anac yn byw yno. Mae’r Amaleciaid yn byw yn y Negef, yr Hethiaid, Jebwsiaid ac Amoriaid yn byw yn y bryniau, a’r Canaaneaid yn byw ar yr arfordir ac ar lan afon Iorddonen.”
Numeri 13:26-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
i Cades yn anialwch Paran at Moses, Aaron a holl gynulliad pobl Israel. Adroddasant y newyddion wrthynt hwy a'r holl gynulliad, a dangos iddynt ffrwyth y tir. Dywedasant wrth Moses, “Daethom i'r wlad yr anfonaist ni iddi, a'i chael yn llifeirio o laeth a mêl, a dyma beth o'i ffrwyth. Ond y mae'r bobl sy'n byw yn y wlad yn gryf; y mae'r dinasoedd yn gaerog ac yn fawr iawn, a gwelsom yno ddisgynyddion Anac. Y mae'r Amaleciaid yn byw yng ngwlad y Negef; yr Hethiaid, y Jebusiaid a'r Amoriaid yn byw yn y mynydd-dir; a'r Canaaneaid wrth y môr, a gerllaw'r Iorddonen.”
Numeri 13:26-29 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A myned a wnaethant, a dyfod at Moses ac at Aaron, ac at holl gynulleidfa meibion Israel, i Cades, yn anialwch Paran; a dygasant yn eu hôl air iddynt, ac i’r holl gynulleidfa, ac a ddangosasant iddynt ffrwyth y tir. A mynegasant iddo, a dywedasant, Daethom i’r tir lle yr anfonaist ni; ac yn ddiau llifeirio y mae o laeth a mêl: a dyma ei ffrwyth ef. Ond y mae y bobl sydd yn trigo yn y tir yn gryfion, a’r dinasoedd yn gaerog ac yn fawrion iawn; a gwelsom yno hefyd feibion Anac. Yr Amaleciaid sydd yn trigo yn nhir y deau; a’r Hethiaid, a’r Jebusiaid, a’r Amoriaid, yn gwladychu yn y mynydd-dir; a’r Canaaneaid yn preswylio wrth y môr, a cherllaw yr Iorddonen.