Numeri 13:17-20
Numeri 13:17-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan anfonodd Moses nhw i archwilio gwlad Canaan, dwedodd fel hyn: “Ewch i fyny drwy’r Negef, ac ymlaen i’r bryniau. Edrychwch i weld sut wlad ydy hi. Ydy’r bobl yn gryf neu’n wan? Oes yna lawer ohonyn nhw, neu ddim ond ychydig? Sut dir ydy e? Da neu ddrwg? Oes gan y trefi waliau i’w hamddiffyn, neu ydyn nhw’n agored? Beth am y pridd? Ydy e’n ffrwythlon neu’n wael? Oes yna fforestydd yno? Byddwch yn ddewr! Ewch yno, a dewch â pheth o gynnyrch y tir yn ôl gyda chi.” (Roedd hi’r adeg o’r flwyddyn pan oedd y grawnwin aeddfed cyntaf yn cael eu casglu.)
Numeri 13:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wrth i Moses eu hanfon i ysbïo gwlad Canaan, dywedodd wrthynt, “Ewch i fyny trwy'r Negef i'r mynydd-dir, ac edrychwch pa fath wlad yw hi: p'run ai cryf ynteu gwan, ychydig ynteu niferus yw'r bobl sy'n byw ynddi; p'run ai da ynteu drwg yw'r tir lle y maent yn byw; p'run ai gwersylloedd ynteu amddiffynfeydd yw eu dinasoedd; p'run ai ffrwythlon ynteu llwm yw'r wlad; ac a oes coed ynddi ai peidio. Byddwch ddewr, a chymerwch beth o gynnyrch y tir.” Adeg blaenffrwyth y grawnwin aeddfed oedd hi.
Numeri 13:17-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Moses a’u hanfonodd hwynt i edrych ansawdd gwlad Canaan; ac a ddywedodd wrthynt, Ewch yma tua’r deau, a dringwch i’r mynydd. Ac edrychwch y wlad beth yw hi, a’r bobl sydd yn trigo ynddi, pa un ai cryf ai gwan, ai ychydig ai llawer ydynt: A pheth yw y tir y maent yn trigo ynddo, ai da ai drwg; ac ym mha ddinasoedd y maent yn preswylio, ai mewn pebyll, ai mewn amddiffynfeydd; A pha dir, ai bras yw efe ai cul; a oes coed ynddo, ai nad oes. Ac ymwrolwch, a dygwch o ffrwyth y tir. A’r dyddiau oeddynt ddyddiau blaenffrwyth grawnwin.