Numeri 13:1-3
Numeri 13:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Anfon ddynion i archwilio gwlad Canaan, sef y tir dw i’n ei roi i bobl Israel. Anfon un arweinydd o bob llwyth.” Felly dyma Moses yn eu hanfon nhw o anialwch Paran, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Roedden nhw i gyd yn arweinwyr pobl Israel.
Numeri 13:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Anfon ddynion i ysbïo Canaan, y wlad yr wyf yn ei rhoi i bobl Israel; yr wyt i anfon pennaeth o bob un o lwythau eu hynafiaid.” Felly, yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD, anfonodd Moses hwy allan o anialwch Paran, pob un ohonynt yn flaenllaw ymhlith pobl Israel.
Numeri 13:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd, Anfon i ti wŷr i edrych tir Canaan, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi i feibion Israel: gŵr dros bob un o lwythau eu tadau a anfonwch; pob un yn bennaeth yn eu mysg hwynt. A Moses a’u hanfonodd hwynt o anialwch Paran, wrth orchymyn yr ARGLWYDD: penaethiaid meibion Israel oedd y gwŷr hynny oll.