Numeri 11:24-30
Numeri 11:24-30 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly dyma Moses yn mynd allan a dweud wrth y bobl beth ddwedodd yr ARGLWYDD. A dyma fe’n casglu saith deg o’r arweinwyr a’u gosod i sefyll o gwmpas y Tabernacl. A dyma’r ARGLWYDD yn dod i lawr yn y cwmwl, ac yn siarad â nhw. A dyma fe’n cymryd peth o’r Ysbryd oedd ar Moses, a’i roi ar y saith deg arweinydd. Pan ddaeth yr Ysbryd arnyn nhw, dyma nhw’n proffwydo. Ond dyna oedd yr unig adeg wnaethon nhw hynny. Roedd yna ddau ddyn, Eldad a Medad, wedi aros yn y gwersyll. (Roedd y ddau ohonyn nhw ar restr yr arweinwyr, ond ddim wedi mynd at y Tabernacl.) A dyma’r Ysbryd yn dod arnyn nhw hefyd, a dyma nhw’n dechrau proffwydo lle roedden nhw, yn y gwersyll. Dyma ddyn ifanc yn rhedeg at Moses a dweud wrtho, “Mae Eldad a Medad yn proffwydo yn y gwersyll!” Felly dyma Josua fab Nwn, un o’r dynion ifanc roedd Moses wedi’u dewis i’w wasanaethu, yn dweud, “Moses, meistr! Gwna iddyn nhw stopio!” Ond dyma Moses yn ei ateb, “Wyt ti’n eiddigeddus drosto i? O na fyddai pobl Dduw i gyd yn broffwydi! Byddwn i wrth fy modd petai’r ARGLWYDD yn rhoi ei Ysbryd arnyn nhw i gyd!” Yna dyma Moses ac arweinwyr Israel yn mynd yn ôl i’r gwersyll.
Numeri 11:24-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Aeth Moses ymaith a mynegi i'r bobl eiriau'r ARGLWYDD; yna casglodd ddeg a thrigain o henuriaid y bobl a'u gosod o amgylch y babell. Daeth yr ARGLWYDD i lawr mewn cwmwl, a llefaru wrtho, a chymerodd yr ARGLWYDD beth o'r ysbryd oedd arno ef a'i roi ar yr henuriaid, y deg a thrigain ohonynt; pan orffwysai'r ysbryd arnynt, byddent yn proffwydo, ond ni wnaent ragor na hynny. Arhosodd dau o'r dynion yn y gwersyll; eu henwau oedd Eldad a Medad, a gorffwysodd yr ysbryd arnynt hwythau. Yr oeddent hwy ymhlith y rhai a gofrestrwyd, ond am nad oeddent wedi mynd allan i'r babell, proffwydasant yn y gwersyll. Pan redodd llanc ifanc a mynegi i Moses fod Eldad a Medad yn proffwydo yn y gwersyll, dywedodd Josua fab Nun, a fu'n gweini ar Moses o'i ieuenctid, “Moses, f'arglwydd, rhwystra hwy.” Ond dywedodd Moses wrtho, “Ai o'm hachos i yr wyt yn eiddigeddus? O na byddai holl bobl yr ARGLWYDD yn broffwydi, ac y byddai ef yn rhoi ei ysbryd arnynt!” Yna dychwelodd Moses a henuriaid Israel i'r gwersyll.
Numeri 11:24-30 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Moses a aeth allan ac a draethodd eiriau yr ARGLWYDD wrth y bobl, ac a gasglodd y dengwr a thrigain o henuriaid y bobl, ac a’u gosododd hwynt o amgylch y babell. Yna y disgynnodd yr ARGLWYDD mewn cwmwl, ac a lefarodd wrtho; ac a gymerodd o’r ysbryd oedd arno, ac a’i rhoddes i’r deg hynafgwr a thrigain. A thra y gorffwysai’r ysbryd arnynt, y proffwydent, ac ychwaneg ni wnaent. A dau o’r gwŷr a drigasant yn y gwersyll, (enw un ydoedd Eldad, enw y llall Medad:) a gorffwysodd yr ysbryd arnynt hwy, am eu bod hwy o’r rhai a ysgrifenasid; ond nid aethant i’r babell, eto proffwydasant yn y gwersyll. A rhedodd llanc, a mynegodd i Moses, ac a ddywedodd, Y mae Eldad a Medad yn proffwydo yn y gwersyll. A Josua mab Nun, gweinidog Moses o’i ieuenctid, a atebodd ac a ddywedodd, Moses, fy arglwydd, gwahardd iddynt. A dywedodd Moses wrtho, Ai cenfigennu yr ydwyt ti drosof fi? O na byddai holl bobl yr ARGLWYDD yn broffwydi, a rhoddi o’r ARGLWYDD ei ysbryd arnynt! A Moses a aeth i’r gwersyll, efe a henuriaid Israel.