Numeri 11:1-3
Numeri 11:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r bobl yn dechrau cwyno fod bywyd yn galed, ac roedd yr ARGLWYDD yn flin pan glywodd nhw. Roedd e wedi gwylltio’n lân gyda nhw. A dyma dân yr ARGLWYDD yn dod ac yn dinistrio cyrion y gwersyll. Roedd y bobl yn gweiddi ar Moses i’w helpu nhw. A dyma Moses yn gweddïo ar yr ARGLWYDD, a dyma’r tân yn diffodd. A dyma fe’n galw’r lle hwnnw yn Tabera, sef “Lle’r Llosgi”, am fod tân yr ARGLWYDD wedi’u llosgi nhw yno.
Numeri 11:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd y bobl yn cwyno am eu caledi yng nghlyw'r ARGLWYDD, a phan glywodd ef hwy, enynnodd ei lid, a llosgodd tân yr ARGLWYDD yn eu plith gan ddifa un cwr o'r gwersyll. Galwodd y bobl ar Moses, a phan weddïodd ef ar yr ARGLWYDD, fe ddiffoddodd y tân. Galwodd enw'r lle hwnnw yn Tabera, am i dân yr ARGLWYDD losgi yn eu plith.
Numeri 11:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r bobl, fel tuchanwyr, oeddynt flin yng nghlustiau yr ARGLWYDD: a chlywodd yr ARGLWYDD hyn; a’i ddig a enynnodd; a thân yr ARGLWYDD a gyneuodd yn eu mysg hwynt, ac a ysodd gwr y gwersyll. A llefodd y bobl ar Moses: a gweddïodd Moses ar yr ARGLWYDD; a’r tân a ddiffoddodd. Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw, Tabera: am gynnau o dân yr ARGLWYDD yn eu mysg hwy.