Nehemeia 6:1-4
Nehemeia 6:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Clywodd Sanbalat, Tobeia, Geshem yr Arab, a’r gelynion eraill fy mod wedi ailadeiladu’r wal a chau’r bylchau i gyd (er fod drysau’r giatiau ddim wedi’u gosod yn eu lle bryd hynny). A dyma fi’n cael neges gan Sanbalat a Geshem yn gofyn i mi eu cyfarfod yn un o’r pentrefi ar wastatir Ono. Ond roedden nhw’n bwriadu gwneud rhyw ddrwg i mi. Felly dyma fi’n anfon neges yn ôl yn dweud, “Dw i’n gwneud gwaith pwysig, ac felly alla i ddim dod. Alla i ddim gadael i’r gwaith stopio er mwyn dod i’ch cyfarfod chi.” Dyma nhw’n cysylltu i ofyn yr un peth bedair gwaith, a rhois yr un ateb iddyn nhw bob tro.
Nehemeia 6:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan glywodd Sanbalat a Tobeia a Gesem yr Arabiad a'r gweddill o'n gelynion fy mod wedi ailgodi'r mur ac nad oedd yr un bwlch ar ôl ynddo—er nad oeddwn y pryd hwnnw wedi gosod dorau ar y pyrth— fe anfonodd Sanbalat a Gesem ataf a dweud, “Tyrd i'n cyfarfod yn un o'r pentrefi yn nyffryn Ono.” Ond eu bwriad oedd gwneud niwed imi. Anfonais negeswyr atynt gyda'r ateb, “Y mae gennyf waith pwysig ar dro, felly ni allaf ddod i lawr. Pam y dylai'r gwaith gael ei atal tra wyf fi yn ei adael ac yn dod i lawr atoch chwi?” Anfonasant ataf i'r un perwyl bedair gwaith, a phob tro rhoddais yr un ateb.
Nehemeia 6:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan glybu Sanbalat, a Thobeia, a Gesem yr Arabiad, a’r rhan arall o’n gelynion, adeiladu ohonof fi y mur, ac nad oedd adwy wedi ei gadael ynddo; (er na osodaswn i y pryd hwnnw y dorau ar y pyrth;) Yna yr anfonodd Sanbalat a Gesem ataf, gan ddywedyd, Tyred, ac ymgyfarfyddwn ynghyd yn un o’r pentrefi yng ngwastadedd Ono. Ac yr oeddynt hwy yn bwriadu gwneuthur niwed i mi. Minnau a anfonais genhadau atynt hwy, gan ddywedyd, Gwaith mawr yr ydwyf fi yn ei wneuthur; oherwydd hynny ni allaf ddyfod i waered: paham y safai y gwaith, pan ymadawn ag ef, a dyfod i waered atoch chwi? Eto hwy a anfonasant ataf fi yn y wedd hon bedair gwaith; ac yn y modd hwnnw yr atebais hwynt.