Nehemeia 13:1-2
Nehemeia 13:1-2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar yr un diwrnod, pan oedd Cyfraith Moses yn cael ei darllen i bawb, dyma nhw’n darganfod fod pobl Ammon a Moab wedi’u gwahardd am byth rhag perthyn i gynulleidfa pobl Dduw. Y rheswm am hynny oedd eu bod wedi gwrthod rhoi bwyd a dŵr i bobl Israel, ac wedi talu Balaam i’w melltithio nhw (er fod ein Duw ni wedi troi’r felltith yn fendith!)
Nehemeia 13:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y diwrnod hwnnw, yn ystod y darlleniad o lyfr Moses i'r bobl, cafwyd ei bod yn ysgrifenedig nad oedd Ammoniaid na Moabiaid byth i ddod i mewn i gynulleidfa Duw, am na ddaethant i gyfarfod â'r Israeliaid â bwyd a diod, eithr yn hytrach gyflogi Balaam yn eu herbyn, i'w melltithio; ond fe drodd ein Duw y felltith yn fendith.
Nehemeia 13:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y dwthwn hwnnw y darllenwyd yn llyfr Moses lle y clybu’r bobl; a chafwyd yn ysgrifenedig ynddo, na ddylai yr Ammoniad na’r Moabiad ddyfod i gynulleidfa DUW yn dragywydd; Am na chyfarfuasent â meibion Israel â bara ac â dwfr, eithr cyflogasent Balaam yn eu herbyn i’w melltithio hwynt: eto ein DUW ni a drodd y felltith yn fendith.