Nehemeia 12:1-47 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Nehemeia 12:1-47 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Dyma’r offeiriaid a’r Lefiaid ddaeth yn ôl i Jerwsalem o Babilon gyda Serwbabel fab Shealtiel a Ieshŵa: Seraia, Jeremeia, Esra, Amareia, Malŵch, Chattwsh, Shechaneia, Rechwm, Meremoth, Ido, Gintoi, Abeia, Miamin, Maadia, Bilga Shemaia, Ioiarîf, Idaïa, Salw, Amoc, Chilceia, ac Idaïa. (Nhw oedd penaethiaid yr offeiriaid a’u cydweithwyr yng nghyfnod Ieshŵa.) Ieshŵa, Binnŵi, Cadmiel, Sherefeia, Jwda, a Mataneia yn gyfrifol am y caneuon mawl. Bacbwceia ac Wnni a’u cydweithwyr yn sefyll gyferbyn â nhw yn y gwasanaethau. Roedd Ieshŵa yn dad i Ioiacîm, Ioiacîm yn dad i Eliashif, Eliashif yn dad i Ioiada, Ioiada yn dad i Jonathan, a Jonathan yn dad i Iadwa. Dyma’r offeiriaid oedd yn arweinwyr eu clan pan oedd Ioiacîm yn archoffeiriad: Meraia – o glan Seraia Chananeia – o glan Jeremeia Meshwlam – o glan Esra Iehochanan – o glan Amareia Jonathan – o glan Malŵch Joseff – o glan Shefaneia Adna – o glan Charîm Chelcai – o glan Meraioth Sechareia – o glan Ido Meshwlam – o glan Ginnethon Sichri – o glan Abeia … – o glan Miniamîn Piltai – o glan Moadeia Shammwa – o glan Bilga Jonathan – o glan Shemaia Matenai – o glan Ioiarîf Wssi – o glan Idaïa Calai – o glan Salw Eber – o glan Amoc Chashafeia – o glan Chilceia Nethanel – o glan Idaïa Wedyn, fel yr offeiriaid, cafodd y Lefiaid oedd yn arweinwyr eu claniau nhw eu rhestru (o gyfnod yr archoffeiriaid Eliashif, Ioiada, Iochanan a Iadwa hyd deyrnasiad Dareius o Persia). Roedd cofrestr o’r Lefiaid oedd yn arweinwyr claniau hyd gyfnod Iochanan wedi’i gadw yn sgrôl y cofnodion hanesyddol. Arweinwyr y Lefiaid: Chashafeia, Sherefeia, Ieshŵa, Binnŵi, a Cadmiel. Yna eu cydweithwyr oedd yn sefyll gyferbyn â nhw i foli a diolch i Dduw. (Roedd un côr yn wynebu y llall fel roedd Dafydd, dyn Duw, wedi dweud.) Yna Mataneia, Bacbwceia, Obadeia, Meshwlam, Talmon ac Accwf yn ofalwyr yn gwarchod y drysau i’r stordai wrth y giatiau. Roedd y rhain i gyd yn gweithio yn y cyfnod pan oedd Ioiacîm (mab Ieshŵa fab Iotsadac) yn archoffeiriad, Nehemeia yn llywodraethwr, ac Esra’r offeiriad yn arbenigwr yn y Gyfraith. Pan oedd wal Jerwsalem yn cael ei chysegru, dyma’r Lefiaid o bobman yn cael eu galw i Jerwsalem i gymryd rhan yn y dathlu. Roedden nhw yno yn canu caneuon o ddiolch i gyfeiliant symbalau, nablau a thelynau. Roedd y cantorion wedi’u casglu hefyd, o’r ardal o gwmpas Jerwsalem a phentrefi Netoffa, Beth-gilgal, a’r wlad o gwmpas Geba ac Asmafeth. (Roedd y cantorion wedi codi pentrefi iddyn nhw’u hunain o gwmpas Jerwsalem.) Pan oedd yr offeiriaid a’r Lefiaid wedi mynd drwy’r ddefod o buro’u hunain, dyma nhw’n cysegru’r bobl, y giatiau, a’r wal. Trefnais i arweinwyr Jwda sefyll ar dop y wal, a chael dau gôr i ganu mawl. Roedd un côr i arwain yr orymdaith ar y wal i gyfeiriad y de at Giât y Sbwriel. Yn eu dilyn nhw roedd Hoshaia a hanner arweinwyr Jwda. Wedyn Asareia, Esra a Meshwlam, Jwda, Benjamin, Shemaia, a Jeremeia – offeiriaid gydag utgyrn. Yna’n olaf Sechareia fab Jonathan (mab Shemaia, mab Mataneia, mab Michaia, mab Saccwr, mab Asaff) a’i gyd-gerddorion – Shemaia, Asarel, Milalai, Gilalai, Maai, Nethanel, Jwda, a Chanani – gyda’r offerynnau cerdd oedd y brenin duwiol Dafydd wedi’u dewis. (Esra yr arbenigwr yn y Gyfraith oedd yn arwain y grŵp yma.) Dyma nhw’n mynd dros Giât y Ffynnon, yna yn syth ymlaen i fyny grisiau Dinas Dafydd, heibio ei balas ac at Giât y Dŵr sydd i’r dwyrain. Wedyn roedd yr ail gôr i fynd i’r cyfeiriad arall. Dyma fi’n eu dilyn nhw ar hyd y wal gyda hanner arall yr arweinwyr. Aethon ni heibio Tŵr y Poptai at y Wal Lydan, dros Giât Effraim, Giât Ieshana, Giât y Pysgod, Tŵr Chanan-el, a Tŵr y Cant, at Giât y Defaid, a stopio wrth Giât y Gwarchodwyr. Wedyn, dyma’r ddau gôr oedd yn canu mawl yn cymryd eu lle yn y deml. Dyma finnau yn gwneud yr un fath, a’r grŵp o arweinwyr oedd gyda fi, a’r offeiriaid oedd yn canu utgyrn – Eliacim, Maaseia, Miniamîn, Michaia, Elioenai, Sechareia a Chananeia. Hefyd Maaseia, Shemaia, Eleasar, Wssi, Iehochanan, Malcîa, Elam ac Eser. Yna dyma’r corau yn canu dan arweiniad Israchïa. Roedd yn ddiwrnod o ddathlu, a chafodd llawer iawn o aberthau eu cyflwyno. Roedd Duw wedi gwneud pawb mor hapus. Roedd y gwragedd a’r plant yno yn dathlu hefyd, ac roedd sŵn y dathlu yn Jerwsalem i’w glywed o bell. Y diwrnod hwnnw cafodd dynion eu penodi i ofalu am y stordai, lle byddai cyfraniadau’r bobl yn cael eu cadw – y ffrwythau cyntaf, a’r degymau. Dyna lle byddai cyfraniadau’r bobl i’r offeiriaid a’r Lefiaid yn cael eu casglu, yn ôl faint o gaeau oedd yn perthyn i bob pentref. Roedd pobl Jwda yn falch o’r offeiriaid a’r Lefiaid oedd yn gwasanaethu. Nhw, gyda’r cantorion a gofalwyr y giatiau, oedd yn arwain y defodau ac yn cynnal seremonïau’r puro, fel gwnaeth y Brenin Dafydd a’i fab Solomon orchymyn. Ers pan oedd y Brenin Dafydd ac Asaff yn fyw, roedd yna rai yn arwain y cantorion, a’r caneuon o fawl a diolch i Dduw. Felly yn amser Serwbabel a Nehemeia fel llywodraethwyr, roedd pobl Israel i gyd yn rhoi cyfran i’r cantorion a’r gofalwyr, fel roedd angen bob dydd. Roedden nhw hefyd yn cadw cyfran i’r Lefiaid, ac roedd y Lefiaid yn cadw cyfran i’r offeiriaid, disgynyddion Aaron.
Nehemeia 12:1-47 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid a ddaeth i fyny gyda Sorobabel fab Salathiel, a Jesua: Seraia, Jeremeia, Esra, Amareia, Maluch, Hattus, Sechaneia, Rehum, Meremoth, Ido, Ginnetho, Abeia, Miamin, Maadia, Bilga, Semaia, Joiarib, Jedaia, Salu, Amoc, Hilceia, Jedaia; y rhain oedd penaethiaid yr offeiriaid a'u brodyr yn nyddiau Jesua. A'r Lefiaid: Jesua, Binnui, Cadmiel, Serebeia, Jwda; a Mataneia a'i frodyr, oedd yn gyfrifol am y moliant, a Bacbuceia ac Unni, eu brodyr, oedd yn sefyll gyferbyn â hwy yn y gwasanaethau. Jesua oedd tad Joiacim, ac yr oedd Joiacim yn dad i Eliasib, ac Eliasib yn dad i Joiada, a Joiada yn dad i Jonathan, a Jonathan yn dad i Jadua. Ac yn nyddiau Joiacim, dyma'r offeiriaid oedd yn bennau-teuluoedd: o Seraia, Meraia; o Jeremeia, Hananei; o Esra, Mesulam; o Amareia, Jehohanan; o Melichu, Jonathan; o Sebaneia, Joseff; o Harim, Adna; o Meraioth, Helcai; o Ido, Sechareia; o Ginnethon, Mesulam; o Abeia, Sichri; o Miniamin, o Moadeia, Piltai; o Bilga, Sammua; o Semaia, Jehonathan; o Joiarib, Matenai; o Jedaia, Ussi; o Salai, Calai; o Amoc, Eber; o Hilceia, Hasabeia; o Jedaia, Nethaneel. Yn nyddiau Eliasib yr oedd y Lefiaid, sef Joiada, Johanan a Jadua, a'r offeiriaid wedi eu cofrestru fel pennau-teuluoedd hyd at deyrnasiad Dareius y Persiad. Yr oedd pennau-teuluoedd y Lefiaid wedi eu cofrestru yn llyfr y Cronicl hyd at amser Johanan fab Eliasib. Arweinwyr y Lefiaid oedd: Hasabeia, Serebeia, Jesua fab Cadmiel a'u brodyr, oedd yn cymryd eu tro i foliannu a thalu diolch yn ôl gorchymyn Dafydd gŵr Duw, ac i gadw cylch y gwasanaethau. Mataneia, Bacbuceia, Obadeia, Mesulam, Talmon, ac Accub oedd y porthorion i wylio'r ystordai wrth y pyrth. Yr oedd y rhain yn nyddiau Joiacim fab Jesua, fab Josadac, ac yn nyddiau Nehemeia y llywodraethwr ac Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd. Pan ddaeth yr amser i gysegru mur Jerwsalem aethant i chwilio am y Lefiaid ymhle bynnag yr oeddent yn byw, a dod â hwy i Jerwsalem i ddathlu'r cysegru â llawenydd, mewn diolchgarwch a chân, gyda symbalau, nablau, a thelynau. Ymgasglodd y cantorion o'r ardaloedd o amgylch Jerwsalem ac o bentrefi'r Netoffathiaid, a hefyd o Beth-gilgal a rhanbarthau Geba ac Asmafeth; oherwydd yr oedd y cantorion wedi codi pentrefi iddynt eu hunain o amgylch Jerwsalem. Yna purodd yr offeiriaid a'r Lefiaid eu hunain, y bobl, y pyrth a'r mur. A gwneuthum i arweinwyr Jwda esgyn i ben y mur, a threfnais i ddau gôr mawr roi diolch. Aeth un i'r dde ar hyd y mur at Borth y Dom, ac ar ei ôl aeth Hosaia a hanner arweinwyr Jwda, ac Asareia, Esra, Mesulam, Jwda, Benjamin, Semaia, a Jeremeia; a rhai o'r offeiriaid â thrwmpedau, Sechareia fab Jonathan, fab Semaia, fab Mataneia, fab Michaia, fab Saccur, fab Asaff, a'i frodyr Semaia, Asarael, Milalai, Gilalai, Maai, Nethaneel, Jwda, a Hanani, ag offer cerdd Dafydd gŵr Duw, ac Esra'r ysgrifennydd o'u blaen. Aethant heibio i Borth y Ffynnon ac i fyny grisiau Dinas Dafydd, wrth yr esgyniad i'r mur uwchben tŷ Dafydd, ac at Borth y Dŵr sydd yn y dwyrain. Aeth y côr arall oedd yn rhoi diolch i'r chwith ac euthum innau gyda hanner y bobl ar ei ôl, ar hyd y mur o Dŵr y Ffyrnau at y Mur Llydan, dros Borth Effraim a'r Hen Borth a Phorth y Pysgod, a heibio i Dŵr Hananel a Thŵr y Cant at Borth y Defaid, a sefyll ym Mhorth y Wyliadwriaeth. Aeth y ddau gôr oedd yn rhoi diolch i mewn i dŷ Dduw, ac yna euthum innau, a hanner yr arweinwyr gyda mi, a'r offeiriaid, Eliacim, Maaseia, Miniamin, Michaia, Elioenai, Sechareia, Hananeia, gyda'r trwmpedau; a Maaseia, Semaia, Eleasar, Ussi, Jehohanan, Malcheia, Elam ac Esra. Ac fe ganodd y cantorion o dan arweiniad Jasraheia. A'r diwrnod hwnnw gwnaethant aberthau mawr a llawenychu, oherwydd yr oedd Duw wedi eu llenwi â gorfoledd; ac yr oedd y merched a'r plant hefyd yn gorfoleddu. Ac yr oedd llawenydd Jerwsalem i'w glywed o bell. Y diwrnod hwnnw fe benodwyd dynion dros yr ystordai lle'r oedd y trysorau, y cyfraniadau, y blaenffrwyth a'r degymau, er mwyn casglu'r cyfrannau oedd yn ddyledus i'r offeiriaid a'r Lefiaid o'r meysydd o gwmpas y trefi; oherwydd yr oedd Jwda yn falch o wasanaeth yr offeiriaid a'r Lefiaid. Yr oeddent yn gofalu am wasanaeth eu Duw ac yn cadw defodau puredigaeth, fel yr oedd y cantorion a'r porthorion yn ei wneud, yn ôl gorchymyn Dafydd a Solomon ei fab. Oherwydd yn yr amser gynt, yn nyddiau Dafydd ac Asaff, yr oedd pen-cantorion a chanu mawl a diolch i Dduw. Felly yn nyddiau Sorobabel ac yn nyddiau Nehemeia yr oedd holl Israel yn rhoi cyfran ddyddiol i'r cantorion a'r porthorion. Yr oeddent yn neilltuo cyfran i'r Lefiaid, a'r Lefiaid yn neilltuo cyfran i dylwyth Aaron.
Nehemeia 12:1-47 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dyma hefyd yr offeiriaid a’r Lefiaid, y rhai a ddaethant i fyny gyda Sorobabel mab Salathiel, a Jesua: sef Seraia, Jeremeia, Esra, Amareia, Maluch, Hattus, Sechaneia, Rehum, Meremoth, Ido, Ginnetho, Abeia, Miamin, Maadia, Bilga, Semaia, a Joiarib, Jedaia, Salu, Amoc, Hilceia, Jedaia: dyma benaethiaid yr offeiriaid a’u brodyr yn nyddiau Jesua. A’r Lefiaid: Jesua, Binnui, Cadmiel, Serebeia, Jwda; a Mataneia oedd ar y gerdd, efe a’i frodyr. Bacbuceia hefyd ac Unni, eu brodyr hwynt, oedd ar eu cyfer yn y gwyliadwriaethau. A Jesua a genhedlodd Joiacim, a Joiacim a genhedlodd Eliasib, ac Eliasib a genhedlodd Joiada, A Joiada a genhedlodd Jonathan, a Jonathan a genhedlodd Jadua. Ac yn nyddiau Joiacim, yr offeiriaid hyn oedd bennau-cenedl: o Seraia, Meraia; o Jeremeia, Hananei; O Esra, Mesulam; o Amareia Jehohanan; O Melichu, Jonathan; o Sebaneia, Joseff; O Harim, Adna; o Meraioth, Helcai; O Ido, Sechareia; o Ginnethon, Mesulam; O Abeia, Sichri; o Miniamin, o Moadeia, Piltai; O Bilga, Sammua; o Semaia, Jehonathan; Ac o Joiarib, Matenai; o Jedaia, Ussi; O Salai, Calai; o Amoc, Eber; O Hilceia, Hasabeia: o Jedaia, Nethaneel. Y Lefiaid yn nyddiau Eliasib, Joiada, a Johanan, a Jadua, oedd wedi eu hysgrifennu yn bennau-cenedl: a’r offeiriaid, hyd deyrnasiad Dareius y Persiad. Meibion Lefi, y pennau-cenedl, wedi eu hysgrifennu yn llyfr y croniclau, hyd ddyddiau Johanan mab Eliasib. A phenaethiaid y Lefiaid, oedd Hasabeia, Serebeia, a Jesua mab Cadmiel, a’u brodyr ar eu cyfer, i ogoneddu ac i foliannu, yn ôl gorchymyn Dafydd gŵr DUW, gwyliadwriaeth ar gyfer gwyliadwriaeth. Mataneia, a Bacbuceia, Obadeia, Mesulam, Talmon, Accub, oedd borthorion, yn cadw gwyliadwriaeth wrth drothwyau y pyrth. Y rhai hyn oedd yn nyddiau Joiacim mab Jesua, fab Josadac, ac yn nyddiau Nehemeia y tywysog, ac Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd. Ac yng nghysegriad mur Jerwsalem y ceisiasant y Lefiaid o’u holl leoedd, i’w dwyn i Jerwsalem, i wneuthur y cysegriad â gorfoledd, mewn diolchgarwch, ac mewn cân, â symbalau, nablau, ac â thelynau. A meibion y cantorion a ymgynullasant o’r gwastadedd o amgylch i Jerwsalem, ac o drefydd Netoffathi, Ac o dŷ Gilgal, ac o feysydd Geba ac Asmafeth: canys y cantorion a adeiladasent bentrefi iddynt o amgylch Jerwsalem. Yr offeiriaid hefyd a’r Lefiaid a ymlanhasant; glanhasant hefyd y bobl, a’r pyrth, a’r mur. A mi a berais i dywysogion Jwda ddringo ar y mur; a gosodais ddwy fintai fawr o rai yn moliannu; a mynediad y naill oedd ar y llaw ddeau ar y mur tua phorth y dom: Ac ar eu hôl hwynt yr aeth Hosaia, a hanner tywysogion Jwda, Asareia hefyd, Esra, a Mesulam, Jwda, a Benjamin, a Semaia, a Jeremeia, Ac o feibion yr offeiriaid ag utgyrn, Sechareia mab Jonathan, fab Semaia, fab Mataneia, fab Michaia, fab Saccur, fab Asaff; A’i frodyr ef, Semaia, ac Asarael, Milalai, Gilalai, Maai, Nethaneel, a Jwda, Hanani, ag offer cerdd Dafydd gŵr DUW, ac Esra yr ysgrifennydd o’u blaen hwynt. Ac wrth borth y ffynnon, yr hon oedd ar eu cyfer hwynt, y dringasant ar risiau dinas Dafydd yn nringfa y mur, oddi ar dŷ Dafydd, hyd borth y dwfr tua’r dwyrain. A’r ail fintai o’r rhai oedd yn moliannu, oedd yn myned ar eu cyfer hwynt, a minnau ar eu hôl; a hanner y bobl oedd ar y mur, oddi ar dŵr y ffyrnau, hyd y mur llydan; Ac oddi ar borth Effraim, ac oddi ar yr hen borth, ac oddi ar borth y pysgod, a thŵr Hananeel, a thŵr Mea, hyd borth y defaid; a hwy a safasant ym mhorth yr wyliadwriaeth. Felly y ddwy fintai, y rhai oedd yn moliannu, a safasant yn nhŷ DDUW, a minnau, a hanner y swyddogion gyda mi: Yr offeiriaid hefyd; Eliacim, Maaseia, Miniamin, Michaia, Elioenai, Sechareia, Hananeia, ag utgyrn: Maaseia hefyd, a Semaia, ac Eleasar, ac Ussi, a Jehohanan, a Malcheia, ac Elam, ac Esra. A’r cantorion a ganasant yn groch, a Jasraheia eu blaenor. A’r diwrnod hwnnw yr aberthasant ebyrth mawrion, ac y llawenhasant: canys DUW a’u llawenychasai hwynt â llawenydd mawr: y gwragedd hefyd a’r plant a orfoleddasant: fel y clybuwyd llawenydd Jerwsalem hyd ymhell. A’r dwthwn hwnnw y gosodwyd gwŷr ar gelloedd y trysorau, ar yr offrymau, ar y blaenffrwyth, ac ar y degymau, i gasglu iddynt hwy o feysydd y dinasoedd y rhannau cyfreithlon i’r offeiriaid a’r Lefiaid: canys llawenydd Jwda oedd ar yr offeiriaid ac ar y Lefiaid y rhai oedd yn sefyll yno. Y cantorion hefyd a’r porthorion a gadwasant wyliadwriaeth eu DUW, a gwyliadwriaeth y glanhad, yn ôl gorchymyn Dafydd, a Solomon ei fab. Canys gynt, yn nyddiau Dafydd ac Asaff, yr oedd y pen-cantorion, a chaniadau canmoliaeth a moliant i DDUW. Ac yn nyddiau Sorobabel, ac yn nyddiau Nehemeia, holl Israel oedd yn rhoddi rhannau i’r cantorion, a’r porthorion, dogn dydd yn ei ddydd: a hwy a gysegrasant bethau sanctaidd i’r Lefiaid; a’r Lefiaid a’u cysegrasant i feibion Aaron.