Nahum 1:1-8 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Nahum 1:1-8 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Neges am ddinas Ninefe: Cofnod o weledigaeth Nahum o Elcosh. Mae’r ARGLWYDD yn Dduw eiddigeddus sy’n dial; Mae’r ARGLWYDD yn dial, ac mae ei ddicter yn ffyrnig. Mae’r ARGLWYDD yn dial ar ei elynion, ac yn wyllt gyda’i wrthwynebwyr. Mae’r ARGLWYDD yn amyneddgar ac yn gryf – ond dydy e ddim yn gadael i’r euog osgoi’r gosb. Mae’n martsio yn y corwynt a’r storm, ac mae’r cymylau fel llwch dan ei draed. Mae’n gweiddi ar y môr a’i sychu, ac yn sychu’r afonydd i gyd. Mae porfa Bashan a Carmel yn gwywo, ac mae blodau Libanus yn gwywo. Mae’r mynyddoedd yn crynu a’r bryniau’n toddi o’i flaen. Mae’r tir yn troi’n ddiffeithwch o’i flaen, y byd, a phopeth sy’n byw ynddo. Pwy all oroesi o flaen ei ddicter? Pwy all wrthsefyll ei ffyrnigrwydd? Mae’n tywallt ei lid fel tân, ac mae’r creigiau’n cael eu dryllio ganddo. Mae’r ARGLWYDD yn dda, ac yn gaer ddiogel mewn argyfwng; Mae’n gofalu am y rhai sy’n troi ato am help. Ond mae’n gyrru ei elynion i’r tywyllwch; fel llifogydd sy’n ysgubo popeth ymaith, bydd yn rhoi diwedd ar Ninefe’n llwyr.
Nahum 1:1-8 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oracl am Ninefe. Llyfr gweledigaeth Nahum o Elcos. Duw eiddigeddus ac un sy'n dial yw'r ARGLWYDD; y mae'r ARGLWYDD yn dial ac yn llawn llid; y mae'r ARGLWYDD yn dial ar ei wrthwynebwyr, ac yn dal dig at ei elynion. Y mae'r ARGLWYDD yn araf i ddigio ond yn fawr o nerth, ac nid yw'n gadael yr euog yn ddi-gosb. Y mae ei ffordd yn y corwynt a'r dymestl, a llwch ei draed yw'r cymylau. Y mae'n ceryddu'r môr ac yn ei sychu, ac yn gwneud pob afon yn hesb; gwywa Basan a Charmel, a derfydd gwyrddlesni Lebanon. Cryna'r mynyddoedd o'i flaen, a thodda'r bryniau; difrodir y ddaear o'i flaen, y byd a phopeth sy'n byw ynddo. Pwy a saif o flaen ei lid? Pwy a ddeil gynddaredd ei ddig? Tywelltir ei lid fel tân, a dryllir y creigiau o'i flaen. Y mae'r ARGLWYDD yn dda—yn amddiffynfa yn nydd argyfwng; y mae'n adnabod y rhai sy'n ymddiried ynddo. Ond â llifeiriant ysgubol gwna ddiwedd llwyr ar ei wrthwynebwyr, ac fe ymlid ei elynion i'r tywyllwch.
Nahum 1:1-8 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Baich Ninefe. Llyfr gweledigaeth Nahum yr Elcosiad. DUW sydd eiddigus, a’r ARGLWYDD sydd yn dial; yr ARGLWYDD sydd yn dial, ac yn berchen llid: dial yr ARGLWYDD ar ei wrthwynebwyr, a dal dig y mae efe i’w elynion. Yr ARGLWYDD sydd hwyrfrydig i ddig, a mawr ei rym, ac ni ddieuoga yr anwir: yr ARGLWYDD sydd a’i lwybr yn y corwynt ac yn y rhyferthwy, a’r cymylau yw llwch ei draed ef. Efe a gerydda y môr, ac a’i sych; yr holl afonydd a ddihysbydda efe: llesgaodd Basan a Charmel, a llesgaodd blodeuyn Libanus. Y mynyddoedd a grynant rhagddo, a’r bryniau a doddant, a’r ddaear a lysg gan ei olwg, a’r byd hefyd a chwbl ag a drigant ynddo. Pwy a saif o flaen ei lid ef? a phwy a gyfyd yng nghynddaredd ei ddigofaint ef? ei lid a dywelltir fel tân, a’r creigiau a fwrir i lawr ganddo. Daionus yw yr ARGLWYDD, amddiffynfa yn nydd blinder; ac efe a edwyn y rhai a ymddiriedant ynddo. A llifeiriant yn myned trosodd y gwna efe dranc ar ei lle hi, a thywyllwch a erlid ei elynion ef.