Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 9:28-29 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Marc 9:28-29 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Ar ôl i Iesu fynd i mewn i dŷ, gofynnodd ei ddisgyblion iddo’n breifat, “Pam oedden ni’n methu ei fwrw allan?” Atebodd Iesu, “Dim ond drwy weddi mae ysbrydion drwg fel yna’n dod allan.”

Marc 9:28-29 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Ac wedi iddo fynd i'r tŷ gofynnodd ei ddisgyblion iddo o'r neilltu, “Pam na allem ni ei fwrw ef allan?” Ac meddai wrthynt, “Dim ond trwy weddi y gall y math hwn fynd allan.”

Marc 9:28-29 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ac wedi iddo fyned i mewn i’r tŷ, ei ddisgyblion a ofynasant iddo o’r neilltu, Paham na allem ni ei fwrw ef allan? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y rhyw hwn ni all er dim ddyfod allan, ond trwy weddi ac ympryd.