Marc 9:1-29 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Marc 9:1-29 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Yna meddai wrthyn nhw, “Credwch chi fi, wnaiff rhai ohonoch chi sy’n sefyll yma ddim marw cyn cael gweld Duw’n dod mewn grym i deyrnasu.” Chwe diwrnod wedyn aeth Iesu i ben mynydd uchel, a mynd â Pedr, Iago ac Ioan gydag e. Roedden nhw yno ar eu pennau’u hunain. Dyma olwg Iesu’n cael ei drawsnewid o flaen eu llygaid. Trodd ei ddillad yn wyn llachar; yn wynnach nag y gallai unrhyw bowdr golchi fyth eu glanhau. Wedyn dyma Elias a Moses yn ymddangos o’u blaenau, yn sgwrsio gyda Iesu. Dyma Pedr yn dweud wrth Iesu, “Rabbi, mae’n dda cael bod yma. Gad i ni godi tair lloches – un i ti, un i Moses ac un i Elias.” (Doedd ganddo ddim syniad beth roedd yn ei ddweud go iawn – roedd y tri ohonyn nhw wedi dychryn gymaint!) Wedyn dyma gwmwl yn dod i lawr a chau o’u cwmpas, a dyma lais o’r cwmwl yn dweud: “Fy Mab annwyl i ydy hwn. Gwrandwch arno!” Yn sydyn dyma nhw’n edrych o’u cwmpas, a doedd neb i’w weld yno ond Iesu. Wrth ddod i lawr o’r mynydd dyma Iesu’n dweud wrthyn nhw i beidio sôn wrth neb am beth welon nhw nes y byddai e, Mab y Dyn, wedi codi yn ôl yn fyw. (Felly cafodd y digwyddiad ei gadw’n gyfrinach, ond roedden nhw’n aml yn trafod gyda’i gilydd beth oedd ystyr “codi yn ôl yn fyw.”) Dyma nhw’n gofyn iddo, “Pam mae’r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dweud fod rhaid i Elias ddod yn ôl cyn i’r Meseia gyrraedd?” Atebodd Iesu, “Mae Elias yn dod gyntaf reit siŵr, i roi trefn ar bopeth. Ond pam mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud fod Mab y Dyn yn mynd i ddioddef llawer a chael ei wrthod? Dw i’n dweud wrthoch chi fod Elias wedi dod, ac maen nhw wedi’i gam-drin yn union fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud.” Pan ddaethon nhw at y disgyblion eraill roedd tyrfa fawr o’u cwmpas, a’r arbenigwyr yn y Gyfraith yno’n dadlau gyda nhw. Cafodd y bobl sioc o weld Iesu, a dyma nhw’n rhedeg i’w gyfarch. “Am beth dych chi’n ffraeo gyda nhw?” gofynnodd. Dyma rhyw ddyn yn ei ateb, “Athro, des i â’m mab atat ti; mae’n methu siarad am ei fod wedi’i feddiannu gan ysbryd drwg sy’n ei wneud yn fud. Pan mae’r ysbryd drwg yn gafael ynddo mae’n ei daflu ar lawr, ac yna mae’n glafoerio a rhincian ei ddannedd ac yn mynd yn stiff i gyd. Gofynnais i dy ddisgyblion di fwrw’r ysbryd allan, ond doedden nhw ddim yn gallu.” “Pam dych chi mor amharod i gredu?” meddai Iesu, “Am faint dw i’n mynd i aros gyda chi? Am faint alla i’ch dioddef chi? Dewch â’r bachgen yma.” Wrth iddyn nhw ddod â’r bachgen at Iesu dyma’r ysbryd drwg yn ei weld ac yn gwneud i’r bachgen gael ffit epileptig. Syrthiodd ar lawr a rholio o gwmpas yn glafoerio o’i geg. Dyma Iesu’n gofyn i’r tad, “Ers faint mae e fel hyn?” “Ers pan yn blentyn bach,” atebodd y dyn. “Mae’r ysbryd drwg wedi’i daflu i ganol tân neu geisio’i foddi mewn dŵr lawer gwaith. Os wyt ti’n gallu gwneud unrhyw beth i’n helpu ni, plîs gwna.” “Beth wyt ti’n feddwl ‘Os wyt ti’n gallu’?” meddai Iesu. “Mae popeth yn bosib i’r sawl sy’n credu!” Gwaeddodd tad y bachgen ar unwaith, “Dw i yn credu! Helpa di fi i beidio amau!” Pan welodd Iesu fod tyrfa o bobl yn rhedeg i weld beth oedd yn digwydd, dyma fe’n ceryddu’r ysbryd drwg a dweud wrtho, “Ysbryd mud a byddar, tyrd allan o’r plentyn yma, a phaid byth mynd yn ôl eto.” Dyma’r ysbryd yn rhoi sgrech ac yn gwneud i’r bachgen ysgwyd yn ffyrnig, ond yna daeth allan. Roedd y bachgen yn gorwedd mor llonydd nes bod llawer yn meddwl ei fod wedi marw. Ond gafaelodd Iesu yn ei law a’i godi, a safodd ar ei draed. Ar ôl i Iesu fynd i mewn i dŷ, gofynnodd ei ddisgyblion iddo’n breifat, “Pam oedden ni’n methu ei fwrw allan?” Atebodd Iesu, “Dim ond drwy weddi mae ysbrydion drwg fel yna’n dod allan.”
Marc 9:1-29 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai hefyd wrthynt, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae rhai o'r sawl sy'n sefyll yma na phrofant flas marwolaeth nes iddynt weld teyrnas Dduw wedi dyfod mewn nerth.” Ymhen chwe diwrnod dyma Iesu'n cymryd Pedr ac Iago ac Ioan ac yn mynd â hwy i fynydd uchel o'r neilltu ar eu pennau eu hunain. A gweddnewidiwyd ef yn eu gŵydd hwy, ac aeth ei ddillad i ddisgleirio'n glaerwyn, y modd na allai unrhyw bannwr ar y ddaear eu gwynnu. Ymddangosodd Elias iddynt ynghyd â Moses; ymddiddan yr oeddent â Iesu. A dywedodd Pedr wrth Iesu, “Rabbi, y mae'n dda ein bod ni yma; gwnawn dair pabell, un i ti ac un i Moses ac un i Elias.” Oherwydd ni wyddai beth i'w ddweud; yr oeddent wedi dychryn cymaint. A daeth cwmwl yn cysgodi drostynt; a dyma lais o'r cwmwl, “Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd; gwrandewch arno.” Ac yn ddisymwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwyach ond Iesu yn unig gyda hwy. Wrth iddynt ddod i lawr o'r mynydd rhoddodd orchymyn iddynt beidio â dweud wrth neb am y pethau a welsant, nes y byddai Mab y Dyn wedi atgyfodi oddi wrth y meirw. Daliasant ar y gair, gan holi yn eu plith eu hunain beth oedd ystyr atgyfodi oddi wrth y meirw. A gofynasant iddo, “Pam y mae'r ysgrifenyddion yn dweud bod yn rhaid i Elias ddod yn gyntaf?” Meddai yntau wrthynt, “Y mae Elias yn dod yn gyntaf ac yn adfer pob peth. Ond sut y mae'n ysgrifenedig am Fab y Dyn, ei fod i ddioddef llawer a chael ei ddirmygu? Ond rwy'n dweud wrthych fod Elias eisoes wedi dod, a gwnaethant iddo beth bynnag a fynnent, fel y mae'n ysgrifenedig amdano.” Pan ddaethant at y disgyblion gwelsant dyrfa fawr o'u cwmpas, ac ysgrifenyddion yn dadlau â hwy. Ac unwaith y gwelodd yr holl dyrfa ef fe'u syfrdanwyd, a rhedasant ato a'i gyfarch. Gofynnodd yntau iddynt, “Am beth yr ydych yn dadlau â hwy?” Atebodd un o'r dyrfa ef, “Athro, mi ddois i â'm mab atat; y mae wedi ei feddiannu gan ysbryd mud, a pha bryd bynnag y mae hwnnw'n gafael ynddo y mae'n ei fwrw ar lawr, ac y mae yntau'n malu ewyn ac yn ysgyrnygu ei ddannedd ac yn mynd yn ddiymadferth. A dywedais wrth dy ddisgyblion am ei fwrw allan, ac ni allasant.” Atebodd Iesu hwy: “O genhedlaeth ddi-ffydd, pa hyd y byddaf gyda chwi? Pa hyd y goddefaf chwi? Dewch ag ef ataf fi.” A daethant â'r bachgen ato. Cyn gynted ag y gwelodd yr ysbryd ef, ysgytiodd y bachgen yn ffyrnig. Syrthiodd ar y llawr a rholio o gwmpas dan falu ewyn. Gofynnodd Iesu i'w dad, “Faint sydd er pan ddaeth hyn arno?” Dywedodd yntau, “O'i blentyndod; llawer gwaith fe'i taflodd i'r tân neu i'r dŵr, i geisio'i ladd. Os yw'n bosibl iti wneud rhywbeth, tosturia wrthym a helpa ni.” Dywedodd Iesu wrtho, “Os yw'n bosibl! Y mae popeth yn bosibl i'r sawl sydd â ffydd ganddo.” Ar unwaith gwaeddodd tad y plentyn, “Yr wyf yn credu; helpa fi yn fy niffyg ffydd.” A phan welodd Iesu fod tyrfa'n rhedeg ynghyd, ceryddodd yr ysbryd aflan. “Ysbryd mud a byddar,” meddai wrtho, “yr wyf fi yn gorchymyn iti, tyrd allan ohono a phaid â mynd i mewn iddo eto.” A chan weiddi a'i ysgytian yn ffyrnig, aeth yr ysbryd allan. Aeth y bachgen fel corff, nes i lawer ddweud ei fod wedi marw. Ond gafaelodd Iesu yn ei law ef a'i godi, a safodd ar ei draed. Ac wedi iddo fynd i'r tŷ gofynnodd ei ddisgyblion iddo o'r neilltu, “Pam na allem ni ei fwrw ef allan?” Ac meddai wrthynt, “Dim ond trwy weddi y gall y math hwn fynd allan.”
Marc 9:1-29 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, fod rhai o’r rhai sydd yn sefyll yma, ni phrofant angau, hyd oni welont deyrnas Dduw wedi dyfod mewn nerth. Ac wedi chwe diwrnod, y cymerth yr Iesu Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac a’u dug hwynt i fynydd uchel, eu hunain o’r neilltu: ac efe a weddnewidiwyd yn eu gŵydd hwynt. A’i ddillad ef a aethant yn ddisglair, yn gannaid iawn fel eira; y fath ni fedr un pannwr ar y ddaear eu cannu. Ac ymddangosodd iddynt Eleias, gyda Moses: ac yr oeddynt yn ymddiddan â’r Iesu. A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu, Rabbi, da yw i ni fod yma: a gwnawn dair pabell; i ti un, ac i Moses un, ac i Eleias un. Canys nis gwyddai beth yr oedd yn ei ddywedyd: canys yr oeddynt wedi dychrynu. A daeth cwmwl yn cysgodi drostynt hwy: a llef a ddaeth allan o’r cwmwl, gan ddywedyd, Hwn yw fy annwyl Fab; gwrandewch ef. Ac yn ddisymwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwy, ond yr Iesu yn unig gyda hwynt. A phan oeddynt yn dyfod i waered o’r mynydd, efe a orchmynnodd iddynt na ddangosent i neb y pethau a welsent, hyd pan atgyfodai Mab y dyn o feirw. A hwy a gadwasant y gair gyda hwynt eu hunain, gan gydymholi beth yw’r atgyfodi o feirw. A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Paham y dywed yr ysgrifenyddion fod yn rhaid i Eleias ddyfod yn gyntaf? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Eleias yn ddiau gan ddyfod yn gyntaf a adfer bob peth; a’r modd yr ysgrifennwyd am Fab y dyn, y dioddefai lawer o bethau, ac y dirmygid ef. Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, ddyfod Eleias yn ddiau, a gwneuthur ohonynt iddo yr hyn a fynasant, fel yr ysgrifennwyd amdano. A phan ddaeth efe at ei ddisgyblion, efe a welodd dyrfa fawr yn eu cylch hwynt, a’r ysgrifenyddion yn cydymholi â hwynt. Ac yn ebrwydd yr holl dyrfa, pan ganfuant ef, a ddychrynasant, a chan redeg ato, a gyfarchasant iddo. Ac efe a ofynnodd i’r ysgrifenyddion, Pa gydymholi yr ydych yn eich plith? Ac un o’r dyrfa a atebodd ac a ddywedodd, Athro, mi a ddygais fy mab atat, ag ysbryd mud ynddo: A pha le bynnag y cymero ef, efe a’i rhwyga; ac yntau a fwrw ewyn, ac a ysgyrnyga ddannedd, ac y mae’n dihoeni: ac mi a ddywedais wrth dy ddisgyblion ar iddynt ei fwrw ef allan; ac nis gallasant. Ac efe a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon, pa hyd y byddaf gyda chwi? pa hyd y goddefaf chwi? dygwch ef ataf fi. A hwy a’i dygasant ef ato. A phan welodd ef, yn y man yr ysbryd a’i drylliodd ef; a chan syrthio ar y ddaear, efe a ymdreiglodd, dan falu ewyn. A gofynnodd yr Iesu i’w dad ef, Beth sydd o amser er pan ddarfu fel hyn iddo? Yntau a ddywedodd, Er yn fachgen. A mynych y taflodd efe ef yn tân, ac i’r dyfroedd, fel y difethai efe ef: ond os gelli di ddim, cymorth ni, gan dosturio wrthym. A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Os gelli di gredu, pob peth a all fod i’r neb a gredo. Ac yn y fan tad y bachgen, dan lefain ac wylofain, a ddywedodd, Yr wyf fi yn credu, O Arglwydd; cymorth fy anghrediniaeth i. A phan welodd yr Iesu fod y dyrfa yn cydredeg ato, efe a geryddodd yr ysbryd aflan, gan ddywedyd wrtho, Tydi ysbryd mud a byddar, yr wyf fi yn gorchymyn i ti, Tyred allan ohono, ac na ddos mwy iddo ef. Ac wedi i’r ysbryd lefain, a dryllio llawer arno ef, efe a aeth allan: ac yr oedd efe fel un marw, fel y dywedodd llawer ei farw ef. A’r Iesu a’i cymerodd ef erbyn ei law, ac a’i cyfododd; ac efe a safodd i fyny. Ac wedi iddo fyned i mewn i’r tŷ, ei ddisgyblion a ofynasant iddo o’r neilltu, Paham na allem ni ei fwrw ef allan? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y rhyw hwn ni all er dim ddyfod allan, ond trwy weddi ac ympryd.