Marc 8:11-21
Marc 8:11-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Daeth Phariseaid ato, a dechrau ffraeo. “Profa pwy wyt ti drwy wneud rhyw arwydd gwyrthiol,” medden nhw. Ochneidiodd Iesu’n ddwfn, a dweud: “Pam mae’r bobl yma o hyd yn gofyn am wyrth fyddai’n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i? Wir i chi, chân nhw ddim un gen i!” Yna gadawodd nhw, a mynd yn ôl i mewn i’r cwch a chroesi drosodd i ochr arall Llyn Galilea. Roedd y disgyblion wedi anghofio mynd â bwyd gyda nhw. Dim ond un dorth fach oedd ganddyn nhw yn y cwch. Dyma Iesu’n eu rhybuddio nhw: “Byddwch yn ofalus! Cadwch draw oddi wrth furum y Phariseaid, a burum Herod hefyd.” Wrth drafod y peth dyma’r disgyblion yn dod i’r casgliad mai tynnu sylw at y ffaith fod ganddyn nhw ddim bara oedd e. Roedd Iesu’n gwybod beth roedden nhw’n ddweud, a gofynnodd iddyn nhw: “Pam dych chi’n poeni eich bod heb fara? Ydych chi’n dal ddim yn deall? Pryd dych chi’n mynd i ddysgu? Ydych chi wedi troi’n ystyfnig? Ydych chithau hefyd yn ddall er bod llygaid gynnoch chi, ac yn fyddar er bod clustiau gynnoch chi? Ydych chi’n cofio dim byd? Pan o’n i’n rhannu’r pum torth rhwng y pum mil, sawl basgedaid o dameidiau oedd dros ben wnaethoch chi eu casglu?” “Deuddeg,” medden nhw. “A phan o’n i’n rhannu’r saith torth i’r pedair mil, sawl llond cawell o dameidiau wnaethoch chi eu casglu?” “Saith,” medden nhw. “Ydych chi’n dal ddim yn deall?” meddai Iesu wrthyn nhw.
Marc 8:11-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Daeth y Phariseaid allan a dechrau dadlau ag ef. Yr oeddent yn ceisio ganddo arwydd o'r nef, i roi prawf arno. Ochneidiodd yn ddwys ynddo'i hun. “Pam,” meddai, “y mae'r genhedlaeth hon yn ceisio arwydd? Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni roddir arwydd i'r genhedlaeth hon.” A gadawodd hwy a mynd i'r cwch drachefn a hwylio ymaith i'r ochr draw. Yr oeddent wedi anghofio dod â bara, ac nid oedd ganddynt ond un dorth gyda hwy yn y cwch. A dechreuodd eu siarsio, gan ddweud, “Gwyliwch, ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a surdoes Herod.” Ac yr oeddent yn trafod ymhlith ei gilydd y ffaith nad oedd ganddynt fara. Deallodd yntau hyn, ac meddai wrthynt, “Pam yr ydych yn trafod nad oes gennych fara? A ydych eto heb weld na deall? A yw eich meddwl wedi troi'n ystyfnig? A llygaid gennych, onid ydych yn gweld, ac a chlustiau gennych, onid ydych yn clywed? Onid ydych yn cofio? Pan dorrais y pum torth i'r pum mil, pa sawl basgedaid lawn o dameidiau a godasoch?” Meddent wrtho, “Deuddeg.” “Pan dorrais y saith i'r pedair mil, llond pa sawl cawell o dameidiau a godasoch?” “Saith,” meddent. Ac meddai ef wrthynt, “Onid ydych eto'n deall?”
Marc 8:11-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r Phariseaid a ddaethant allan, ac a ddechreuasant ymholi ag ef, gan geisio ganddo arwydd o’r nef, gan ei demtio. Yntau, gan ddwys ochneidio yn ei ysbryd, a ddywedodd, Beth a wna’r genhedlaeth yma yn ceisio arwydd? Yn wir meddaf i chwi, Ni roddir arwydd i’r genhedlaeth yma. Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth i’r llong drachefn, ac a dynnodd ymaith i’r lan arall. A’r disgyblion a adawsant yn angof gymryd bara, ac nid oedd ganddynt gyda hwynt ond un dorth yn y llong. Yna y gorchmynnodd efe iddynt, gan ddywedyd, Gwyliwch, ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid, a surdoes Herod. Ac ymresymu a wnaethant y naill wrth y llall, gan ddywedyd, Hyn sydd oblegid nad oes gennym fara. A phan wybu’r Iesu, efe a ddywedodd wrthynt, Pa ymresymu yr ydych, am nad oes gennych fara? onid ydych chwi eto yn ystyried, nac yn deall? ydyw eich calon eto gennych wedi caledu? A chennych lygaid, oni welwch? a chennych glustiau, oni chlywch? ac onid ydych yn cofio? Pan dorrais y pum torth hynny ymysg y pum mil, pa sawl basgedaid yn llawn o friwfwyd a godasoch i fyny? Dywedasant wrtho, Deuddeg. A phan dorrais y saith ymhlith y pedair mil, llonaid pa sawl basged o friwfwyd a godasoch i fyny? A hwy a ddywedasant, Saith. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa fodd nad ydych yn deall?