Marc 7:31-35
Marc 7:31-35 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Aeth Iesu yn ei flaen o ardal Tyrus a mynd drwy Sidon ac yna yn ôl i lawr at Lyn Galilea i ardal Decapolis. Yno daeth rhyw bobl a dyn ato oedd yn fyddar ac yn methu siarad yn glir, a gofyn iddo osod ei ddwylo ar y dyn a’i iacháu. Aeth Iesu a’r dyn i ffwrdd o olwg y dyrfa. Rhoddodd ei fysedd yng nghlustiau’r dyn ac wedyn poeri ar ei fysedd cyn cyffwrdd tafod y dyn. Edrychodd i fyny i’r nefoedd, ac meddai gydag ochenaid ddofn, “Eph-phatha!” (sy’n golygu, “Agor!”) Ar unwaith roedd y dyn yn gallu clywed a siarad yn glir.
Marc 7:31-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dychwelodd drachefn o gyffiniau Tyrus, a daeth drwy Sidon at Fôr Galilea trwy ganol bro'r Decapolis. Dygasant ato ddyn byddar oedd prin yn gallu siarad, a cheisio ganddo roi ei law arno. Cymerodd yntau ef o'r neilltu oddi wrth y dyrfa ar ei ben ei hun; rhoes ei fysedd yn ei glustiau, poerodd, a chyffyrddodd â'i dafod; a chan edrych i fyny i'r nef ochneidiodd a dweud wrtho, “Ephphatha”, hynny yw, “Agorer di”. Agorwyd ei glustiau ar unwaith, a datodwyd rhwym ei dafod a dechreuodd lefaru'n eglur.
Marc 7:31-35 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a aeth drachefn ymaith o dueddau Tyrus a Sidon, ac a ddaeth hyd fôr Galilea, trwy ganol terfynau Decapolis. A hwy a ddygasant ato un byddar, ag atal dywedyd arno; ac a atolygasant iddo ddodi ei law arno ef. Ac wedi iddo ei gymryd ef o’r neilltu allan o’r dyrfa, efe a estynnodd ei fysedd yn ei glustiau ef; ac wedi iddo boeri, efe a gyffyrddodd â’i dafod ef; A chan edrych tua’r nef, efe a ochneidiodd, ac a ddywedodd wrtho, Effatha, hynny yw, Ymagor. Ac yn ebrwydd ei glustiau ef a agorwyd, a rhwym ei dafod a ddatodwyd; ac efe a lefarodd yn eglur.