Marc 6:2
Marc 6:2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar y dydd Saboth dechreuodd ddysgu yn y synagog. Roedd y bobl oedd yn gwrando arno yn rhyfeddu. “Ble wnaeth hwn ddysgu’r pethau yma i gyd?” medden nhw. “Ble gafodd e’r holl ddoethineb, a’r gallu i wneud gwyrthiau?
Rhanna
Darllen Marc 6Marc 6:2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A phan ddaeth y Saboth dechreuodd ddysgu yn y synagog. Yr oedd llawer yn synnu wrth wrando, ac meddent, “O ble y cafodd hwn y pethau hyn? A beth yw'r ddoethineb a roed i hwn, a'r fath weithredoedd nerthol sy'n cael eu gwneud trwyddo ef?
Rhanna
Darllen Marc 6Marc 6:2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi dyfod y Saboth, efe a ddechreuodd athrawiaethu yn y synagog: a synnu a wnaeth llawer a’i clywsant, gan ddywedyd, O ba le y daeth y pethau hyn i hwn? a pha ddoethineb yw hon a roed iddo, fel y gwneid y cyfryw nerthoedd trwy ei ddwylo ef?
Rhanna
Darllen Marc 6