Marc 16:15-18
Marc 16:15-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
dwedodd wrthyn nhw, “Ewch i gyhoeddi’r newyddion da i bawb drwy’r byd i gyd. Bydd pob un sy’n credu ac yn cael ei fedyddio yn cael ei achub, ond pob un sy’n gwrthod credu yn cael ei gondemnio. A bydd yr arwyddion gwyrthiol yma’n digwydd i’r rhai sy’n credu: Byddan nhw’n bwrw cythreuliaid allan o bobl yn fy enw i; ac yn siarad ieithoedd gwahanol. Byddan nhw’n gallu gafael mewn nadroedd; ac os byddan nhw’n yfed gwenwyn, fyddan nhw ddim yn dioddef o gwbl; byddan nhw’n gosod eu dwylo ar bobl sy’n glaf, a’u hiacháu nhw.”
Marc 16:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A dywedodd wrthynt, “Ewch i'r holl fyd a phregethwch yr Efengyl i'r greadigaeth i gyd. Y sawl a gred ac a fedyddir, fe gaiff ei achub, ond y sawl ni chred, fe'i condemnir. A bydd yr arwyddion hyn yn dilyn i'r sawl a gredodd: bwriant allan gythreuliaid yn fy enw i, llefarant â thafodau newydd, gafaelant mewn seirff, ac os yfant wenwyn marwol ni wna ddim niwed iddynt; rhoddant eu dwylo ar gleifion, ac iach fyddant.”
Marc 16:15-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch i’r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur. Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig: eithr y neb ni chredo a gondemnir. A’r arwyddion hyn a ganlynant y rhai a gredant: Yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid; ac â thafodau newyddion y llefarant; Seirff a godant ymaith; ac os yfant ddim marwol, ni wna iddynt ddim niwed; ar y cleifion y rhoddant eu dwylo, a hwy a fyddant iach.