Marc 15:1-20
Marc 15:1-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn gynnar iawn yn y bore, dyma’r prif offeiriaid a’r arweinwyr eraill, gyda’r arbenigwyr yn y Gyfraith a’r Sanhedrin cyfan, yn penderfynu beth i’w wneud. Dyma nhw’n rhwymo Iesu a’i drosglwyddo i Peilat. Dyma Peilat yn dweud wrtho, “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?” “Ti sy’n dweud,” atebodd Iesu. Roedd y prif offeiriaid yn ei gyhuddo o bob math o bethau, felly gofynnodd Peilat iddo eto, “Oes gen ti ddim i’w ddweud? Edrych cymaint o bethau maen nhw’n dy gyhuddo di o’u gwneud.” Ond wnaeth Iesu ddim ateb o gwbl. Doedd y peth yn gwneud dim sens i Peilat. Adeg y Pasg roedd hi’n draddodiad i ryddhau un carcharor – un oedd y bobl yn ei ddewis. Roedd dyn o’r enw Barabbas yn y carchar – un o’r terfysgwyr oedd yn euog o lofruddiaeth adeg y gwrthryfel. Felly dyma’r dyrfa’n mynd at Peilat a gofyn iddo wneud yn ôl ei arfer. “Beth am i mi ryddhau hwn i chi, ‘Brenin yr Iddewon’?” meddai Peilat. (Roedd yn gwybod fod y prif offeiriaid wedi arestio Iesu am eu bod yn genfigennus ohono.) Ond dyma’r prif offeiriaid yn cyffroi’r dyrfa a’u cael i ofyn i Peilat ryddhau Barabbas yn ei le. “Felly beth dw i i’w wneud gyda’r un dych chi’n ei alw’n ‘Frenin yr Iddewon’?” gofynnodd Peilat. A dyma nhw’n dechrau gweiddi, “Croeshoelia fe!” “Pam?” meddai Peilat, “Beth mae wedi’i wneud o’i le?” Ond dyma nhw’n dechrau gweiddi’n uwch, “Croeshoelia fe!” Gan ei fod am blesio’r dyrfa dyma Peilat yn rhyddhau Barabbas iddyn nhw. Wedyn gorchmynnodd fod Iesu i gael ei chwipio, ac yna ei ddedfrydu i gael ei groeshoelio. Dyma’r milwyr Rhufeinig yn mynd â Iesu i’r iard yn y palas (hynny ydy, Pencadlys y llywodraethwr) a galw’r holl fintai at ei gilydd. Dyma nhw’n rhoi clogyn porffor amdano, ac yn plethu drain i wneud coron i’w rhoi ar ei ben. Wedyn dyma nhw’n dechrau ei saliwtio, “Eich mawrhydi! Brenin yr Iddewon!” Roedden nhw’n ei daro ar ei ben gyda gwialen drosodd a throsodd, ac yn poeri arno. Wedyn roedden nhw’n mynd ar eu gliniau o’i flaen ac yn esgus talu teyrnged iddo. Pan oedden nhw wedi blino cael sbort, dyma nhw’n tynnu’r clogyn porffor oddi arno a’i wisgo yn ei ddillad ei hun unwaith eto. Wedyn dyma nhw’n ei arwain allan i gael ei groeshoelio.
Marc 15:1-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cyn gynted ag y daeth hi'n ddydd, ymgynghorodd y prif offeiriaid â'r henuriaid a'r ysgrifenyddion a'r holl Sanhedrin; yna rhwymasant Iesu a mynd ag ef ymaith a'i drosglwyddo i Pilat. Holodd Pilat ef: “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Atebodd yntau ef: “Ti sy'n dweud hynny.” Ac yr oedd y prif offeiriaid yn dwyn llawer o gyhuddiadau yn ei erbyn. Holodd Pilat ef wedyn: “Onid atebi ddim? Edrych faint o gyhuddiadau y maent yn eu dwyn yn dy erbyn.” Ond nid atebodd Iesu ddim mwy, er syndod i Pilat. Ar yr ŵyl yr oedd Pilat yn arfer rhyddhau iddynt un carcharor y gofynnent amdano. Ac yr oedd y dyn a elwid Barabbas yn y carchar gyda'r gwrthryfelwyr hynny oedd wedi llofruddio yn ystod y gwrthryfel. Daeth y dyrfa i fyny a dechrau gofyn i Pilat wneud yn ôl ei arfer iddynt. Atebodd Pilat hwy: “A fynnwch i mi ryddhau i chwi Frenin yr Iddewon?” Oherwydd gwyddai mai o genfigen yr oedd y prif offeiriaid wedi ei draddodi ef. Ond cyffrôdd y prif offeiriaid y dyrfa i geisio ganddo yn hytrach ryddhau Barabbas iddynt. Atebodd Pilat drachefn, ac meddai wrthynt, “Beth, ynteu, a wnaf â hwn yr ydych yn ei alw yn Frenin yr Iddewon?” Gwaeddasant hwythau yn ôl, “Croeshoelia ef.” Meddai Pilat wrthynt, “Ond pa ddrwg a wnaeth ef?” Gwaeddasant hwythau yn uwch byth, “Croeshoelia ef.” A chan ei fod yn awyddus i fodloni'r dyrfa, rhyddhaodd Pilat Barabbas iddynt, a thraddododd Iesu, ar ôl ei fflangellu, i'w groeshoelio. Aeth y milwyr ag ef ymaith i mewn i'r cyntedd, hynny yw, i'r Praetoriwm, a galw ynghyd yr holl fintai. A gwisgasant ef â phorffor, a phlethu coron ddrain a'i gosod am ei ben. A dechreusant ei gyfarch: “Henffych well, Frenin yr Iddewon!” Curasant ei ben â gwialen, a phoeri arno, a phlygu eu gliniau ac ymgrymu iddo. Ac wedi iddynt ei watwar, tynasant y porffor oddi amdano a'i wisgo ef â'i ddillad ei hun. Yna aethant ag ef allan i'w groeshoelio.
Marc 15:1-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yn y fan, y bore, yr ymgynghorodd yr archoffeiriaid gyda’r henuriaid a’r ysgrifenyddion, a’r holl gyngor: ac wedi iddynt rwymo’r Iesu, hwy a’i dygasant ef ymaith, ac a’i traddodasant at Peilat. A gofynnodd Peilat iddo, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd. A’r archoffeiriaid a’i cyhuddasant ef o lawer o bethau: eithr nid atebodd efe ddim. A Pheilat drachefn a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Onid atebi di ddim? wele faint o bethau y maent yn eu tystiolaethu yn dy erbyn. Ond yr Iesu eto nid atebodd ddim; fel y rhyfeddodd Peilat. Ac ar yr ŵyl honno y gollyngai efe yn rhydd iddynt un carcharor, yr hwn a ofynnent iddo. Ac yr oedd un a elwid Barabbas, yr hwn oedd yn rhwym gyda’i gyd-derfysgwyr, y rhai yn y derfysg a wnaethent lofruddiaeth. A’r dyrfa gan grochlefain, a ddechreuodd ddeisyf arno wneuthur fel y gwnaethai bob amser iddynt. A Pheilat a atebodd iddynt, gan ddywedyd, A fynnwch chwi i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon? (Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasai’r archoffeiriaid ef.) A’r archoffeiriaid a gynyrfasent y bobl, fel y gollyngai efe yn hytrach Barabbas yn rhydd iddynt. A Pheilat a atebodd ac a ddywedodd drachefn wrthynt, Beth gan hynny a fynnwch i mi ei wneuthur i’r hwn yr ydych yn ei alw Brenin yr Iddewon? A hwythau a lefasant drachefn, Croeshoelia ef. Yna Peilat a ddywedodd wrthynt, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? A hwythau a lefasant fwyfwy, Croeshoelia ef. A Pheilat yn chwennych bodloni’r bobl, a ollyngodd yn rhydd iddynt Barabbas; a’r Iesu, wedi iddo ei fflangellu, a draddododd efe i’w groeshoelio. A’r milwyr a’i dygasant ef i fewn y llys, a elwir Pretorium: a hwy a alwasant ynghyd yr holl fyddin; Ac a’i gwisgasant ef â phorffor, ac a blethasant goron o ddrain, ac a’i dodasant am ei ben; Ac a ddechreuasant gyfarch iddo, Henffych well, Brenin yr Iddewon. A hwy a gurasant ei ben ef â chorsen, ac a boerasant arno, a chan ddodi eu gliniau i lawr, a’i haddolasant ef. Ac wedi iddynt ei watwar ef, hwy a ddiosgasant y porffor oddi amdano, ac a’i gwisgasant ef â’i ddillad ei hun, ac a’i dygasant allan i’w groeshoelio.