Marc 14:26-50
Marc 14:26-50 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wedyn ar ôl canu emyn, dyma nhw’n mynd allan i Fynydd yr Olewydd. “Dych chi i gyd yn mynd i droi cefn arna i,” meddai Iesu wrthyn nhw. “Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydda i’n taro’r bugail, a bydd y defaid yn mynd ar chwâl.’ Ond ar ôl i mi ddod yn ôl yn fyw af i o’ch blaen chi i Galilea.” “Wna i byth droi cefn arnat ti!” meddai Pedr wrtho. “Hyd yn oed os bydd pawb arall yn gwneud hynny!” “Wir i ti,” meddai Iesu wrtho, “heno, cyn i’r ceiliog ganu ddwywaith, byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod yn fy nabod i!” Ond roedd Pedr yn mynnu, “Na! wna i byth wadu mod i’n dy nabod di! Hyd yn oed os bydd rhaid i mi farw gyda ti!” Ac roedd y lleill yn dweud yr un peth. Dyma Iesu’n mynd gyda’i ddisgyblion i le o’r enw Gethsemane. “Eisteddwch chi yma,” meddai wrthyn nhw, “dw i’n mynd i weddïo.” Aeth a Pedr, Iago ac Ioan gydag e, a dechreuodd brofi dychryn a gwewyr meddwl oedd yn ei lethu. “Mae’r tristwch dw i’n ei deimlo yn ddigon i’m lladd i,” meddai wrthyn nhw. “Arhoswch yma a gwylio.” Aeth yn ei flaen ychydig, a syrthio ar lawr a gweddïo i’r profiad ofnadwy oedd o’i flaen fynd i ffwrdd petai hynny’n bosib. “ Abba ! Dad!” meddai, “Mae popeth yn bosib i ti. Cymer y cwpan chwerw yma oddi arna i. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.” Pan aeth yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw’n cysgu. A meddai wrth Pedr, “Simon, wyt ti’n cysgu? Allet ti ddim cadw golwg am un awr fechan? Cadwch yn effro, a gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi’ch profi. Mae’r ysbryd yn frwd, ond y corff yn wan.” Yna aeth Iesu i ffwrdd a gweddïo’r un peth eto. Ond pan ddaeth yn ôl roedden nhw wedi syrthio i gysgu eto – roedden nhw’n methu’n lân â chadw eu llygaid ar agor. Doedden nhw ddim yn gwybod beth i’w ddweud. Pan ddaeth yn ôl y drydedd waith, meddai wrthyn nhw, “Dych chi’n cysgu eto? Dal i orffwys? Dyna ni, mae’r foment wedi dod. Dw i, Mab y Dyn, ar fin cael fy mradychu i afael pechaduriaid. Codwch, gadewch i ni fynd! Mae’r bradwr wedi cyrraedd!” Ac ar unwaith, wrth iddo ddweud y peth, dyma Jwdas yn cyrraedd, un o’r deuddeg disgybl, gyda thyrfa yn cario cleddyfau a phastynau. Roedd y prif offeiriaid, yr arbenigwyr yn y Gyfraith a’r arweinwyr Iddewig eraill wedi’u hanfon nhw i ddal Iesu. Roedd Jwdas y bradwr wedi trefnu y byddai’n rhoi arwydd iddyn nhw: “Yr un fydda i’n ei gyfarch â chusan ydy’r dyn; arestiwch e, a’i gadw yn y ddalfa.” Pan gyrhaeddodd, aeth Jwdas yn syth at Iesu. “Rabbi!” meddai, ac yna ei gyfarch â chusan. Yna gafaelodd y lleill yn Iesu a’i arestio. Ond dyma un o’r rhai oedd yno yn tynnu cleddyf allan a tharo gwas yr archoffeiriad. Torrodd ei glust i ffwrdd. “Ydw i’n arwain gwrthryfel neu rywbeth?” meddai Iesu. “Ai dyna pam mae angen y cleddyfau a’r pastynau yma? Pam wnaethoch chi ddim fy arestio i yn y deml? Rôn i yno gyda chi bob dydd, yn dysgu’r bobl. Ond rhaid i bethau ddigwydd fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud.” Dyma’r disgyblion i gyd yn ei adael, a dianc.
Marc 14:26-50 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac wedi iddynt ganu emyn, aethant allan i Fynydd yr Olewydd. A dywedodd Iesu wrthynt, “Fe ddaw cwymp i bob un ohonoch. Oherwydd y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Trawaf y bugail, a gwasgerir y defaid.’ “Ond wedi i mi gael fy nghyfodi af o'ch blaen chwi i Galilea.” Meddai Pedr wrtho, “Er iddynt gwympo bob un, ni wnaf fi.” Ac meddai Iesu wrtho, “Yn wir, rwy'n dweud wrthyt y bydd i ti heno nesaf, cyn i'r ceiliog ganu ddwywaith, fy ngwadu i deirgwaith.” Ond taerai yntau'n fwy byth, “Petai'n rhaid imi farw gyda thi, ni'th wadaf byth.” A'r un modd yr oeddent yn dweud i gyd. Daethant i le o'r enw Gethsemane, ac meddai ef wrth ei ddisgyblion, “Eisteddwch yma tra byddaf yn gweddïo.” Ac fe gymerodd gydag ef Pedr ac Iago ac Ioan, a dechreuodd deimlo arswyd a thrallod dwys, ac meddai wrthynt, “Y mae f'enaid yn drist iawn hyd at farw. Arhoswch yma a gwyliwch.” Aeth ymlaen ychydig, a syrthiodd ar y ddaear a gweddïo ar i'r awr, petai'n bosibl, fynd heibio iddo. “Abba! Dad!” meddai, “y mae pob peth yn bosibl i ti. Cymer y cwpan hwn oddi wrthyf. Eithr nid yr hyn a fynnaf fi, ond yr hyn a fynni di.” Daeth yn ôl a'u cael hwy'n cysgu, ac meddai wrth Pedr, “Simon, ai cysgu yr wyt ti? Oni ellaist wylio am un awr? Gwyliwch, a gweddïwch na ddewch i gael eich profi. Y mae'r ysbryd yn barod ond y cnawd yn wan.” Aeth ymaith drachefn a gweddïo, gan lefaru'r un geiriau. A phan ddaeth yn ôl fe'u cafodd hwy'n cysgu eto, oherwydd yr oedd eu llygaid yn drwm; ac ni wyddent beth i'w ddweud wrtho. Daeth y drydedd waith, a dweud wrthynt, “A ydych yn dal i gysgu a gorffwys? Dyna ddigon. Daeth yr awr; dyma Fab y Dyn yn cael ei fradychu i ddwylo pechaduriaid. Codwch ac awn. Dyma fy mradychwr yn agosáu.” Ac yna, tra oedd yn dal i siarad, dyma Jwdas, un o'r Deuddeg, yn cyrraedd, a chydag ef dyrfa yn dwyn cleddyfau a phastynau, wedi eu hanfon gan y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion a'r henuriaid. Yr oedd ei fradychwr wedi rhoi arwydd iddynt gan ddweud, “Yr un a gusanaf yw'r dyn; daliwch ef a mynd ag ef ymaith yn ddiogel.” Ac yn union wedi cyrraedd, aeth ato ef a dweud, “Rabbi,” a chusanodd ef. Rhoesant hwythau eu dwylo arno a'i ddal. Tynnodd rhywun o blith y rhai oedd yn sefyll gerllaw gleddyf, a thrawodd was yr archoffeiriad a thorri ei glust i ffwrdd. A dywedodd Iesu wrthynt, “Ai fel at leidr, â chleddyfau a phastynau, y daethoch allan i'm dal i? Yr oeddwn gyda chwi beunydd, yn dysgu yn y deml, ac ni ddaliasoch fi. Ond cyflawner yr Ysgrythurau.” A gadawodd y disgyblion ef bob un, a ffoi.
Marc 14:26-50 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi iddynt ganu mawl, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd. A dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwi a rwystrir oll o’m plegid i y nos hon: canys ysgrifenedig yw, Trawaf y bugail, a’r defaid a wasgerir. Eithr wedi i mi atgyfodi, mi a af o’ch blaen chwi i Galilea. Ond Pedr a ddywedodd wrtho, Pe byddai pawb wedi eu rhwystro, eto ni byddaf fi. A dywedodd yr Iesu wrtho, Yn wir yr ydwyf yn dywedyd i ti, Heddiw, o fewn y nos hon, cyn canu o’r ceiliog ddwywaith, y gwedi fi deirgwaith. Ond efe a ddywedodd yn helaethach o lawer, Pe gorfyddai imi farw gyda thi, ni’th wadaf ddim. A’r un modd y dywedasant oll. A hwy a ddaethant i le yr oedd ei enw Gethsemane: ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, tra fyddwyf yn gweddïo. Ac efe a gymerth gydag ef Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac a ddechreuodd ymofidio, a thristáu yn ddirfawr. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae fy enaid yn athrist hyd angau: arhoswch yma, a gwyliwch. Ac efe a aeth ychydig ymlaen, ac a syrthiodd ar y ddaear, ac a weddïodd, o bai bosibl, ar fyned yr awr honno oddi wrtho. Ac efe a ddywedodd, Abba, Dad, pob peth sydd bosibl i ti: tro heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: eithr nid y peth yr ydwyf fi yn ei ewyllysio, ond y peth yr ydwyt ti. Ac efe a ddaeth, ac a’u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth Pedr, Simon, ai cysgu yr wyt ti? oni allit wylio un awr? Gwyliwch a gweddïwch, rhag eich myned mewn temtasiwn. Yr ysbryd yn ddiau sydd barod, ond y cnawd sydd wan. Ac wedi iddo fyned ymaith drachefn, efe a weddïodd, gan ddywedyd yr un ymadrodd. Ac wedi iddo ddychwelyd, efe a’u cafodd hwynt drachefn yn cysgu; canys yr oedd eu llygaid hwynt wedi trymhau: ac ni wyddent beth a atebent iddo. Ac efe a ddaeth y drydedd waith, ac a ddywedodd wrthynt, Cysgwch weithian, a gorffwyswch: digon yw; daeth yr awr: wele, yr ydys yn bradychu Mab y dyn i ddwylo pechaduriaid. Cyfodwch, awn; wele, y mae’r hwn sydd yn fy mradychu yn agos. Ac yn y man, ac efe eto yn llefaru, daeth Jwdas, un o’r deuddeg, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’r henuriaid. A’r hwn a’i bradychodd ef a roddasai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gusanwyf, hwnnw yw: deliwch ef, a dygwch ymaith yn sicr. A phan ddaeth, yn ebrwydd efe a aeth ato, ac a ddywedodd, Rabbi, Rabbi; ac a’i cusanodd ef. A hwythau a roesant eu dwylo arno, ac a’i daliasant ef. A rhyw un o’r rhai oedd yn sefyll gerllaw, a dynnodd ei gleddyf, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ef. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ai megis at leidr y daethoch allan, â chleddyfau ac â ffyn, i’m dala i? Yr oeddwn i beunydd gyda chwi yn athrawiaethu yn y deml, ac ni’m daliasoch: ond rhaid yw cyflawni’r ysgrythurau. A hwynt oll a’i gadawsant ef, ac a ffoesant.