Marc 13:14-37
Marc 13:14-37 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Pan welwch ‘yr eilun ffiaidd sy’n dinistrio’ wedi’i osod lle na ddylai fod (rhaid i’r un sy’n darllen ddeall hyn!), yna dylai pawb sydd yn Jwdea ddianc i’r mynyddoedd. Fydd dim cyfle i rywun sydd y tu allan i’w dŷ fynd i mewn i nôl unrhyw beth. A ddylai neb sydd allan yn y maes fynd adre i nôl ei gôt hyd yn oed. Mor ofnadwy fydd hi ar wragedd beichiog a mamau sy’n magu plant bach bryd hynny! Gweddïwch y bydd ddim yn digwydd yn y gaeaf, achos bryd hynny bydd argyfwng gwaeth nag unrhyw beth welwyd erioed o’r blaen – ers i Dduw greu’r byd! A fydd dim byd tebyg yn y dyfodol chwaith! Oni bai i’r Arglwydd ei wneud yn gyfnod byr, fyddai neb yn dianc! Ond mae’n gwneud hynny er mwyn y bobl mae wedi’u dewis iddo’i hun. Felly, os bydd rhywun yn dweud, ‘Edrych! Hwn ydy’r Meseia!’ neu, ‘Edrych! Dacw fe!’ peidiwch credu’r peth. Bydd llawer i ‘Feseia’ ffug a phroffwydi ffug yn dod ac yn gwneud gwyrthiau syfrdanol. Bydden nhw’n twyllo’r bobl hynny mae Duw wedi’u dewis petai’r fath beth yn bosib! Felly gwyliwch! Dw i wedi dweud hyn i gyd ymlaen llaw. “Ond bryd hynny, ar ôl yr argyfwng, ‘Bydd yr haul yn tywyllu, a’r lleuad yn peidio rhoi golau; bydd y sêr yn syrthio o’r awyr, a’r planedau yn ansefydlog.’ “Bryd hynny bydd pawb yn fy ngweld i, Mab y Dyn, yn dod mewn cymylau gyda grym ac ysblander mawr. Yna bydd yn anfon yr angylion i gasglu’r rhai mae wedi’u dewis o bob rhan o’r byd. “Dysgwch wers gan y goeden ffigys: Pan mae’r brigau’n dechrau blaguro a dail yn dechrau tyfu arni, gwyddoch fod yr haf yn agos. Felly’r un fath, pan fyddwch yn gweld y pethau yma’n digwydd, byddwch yn gwybod ei fod ar fin dod yn ôl – reit tu allan i’r drws! Credwch chi fi, bydd pobl y genhedlaeth bresennol yn dal yma pan fydd hyn yn digwydd. Bydd yr awyr a’r ddaear yn diflannu, ond mae beth dw i’n ddweud yn aros am byth. “Does neb ond y Tad ei hun yn gwybod y dyddiad a pha amser o’r dydd y bydd hyn yn digwydd – dydy’r angylion ddim yn gwybod, na hyd yn oed y Mab ei hun! Gwyliwch eich hunain! Cadwch yn effro! Dych chi ddim yn gwybod pryd fydd e’n digwydd. Mae fel dyn sy’n mynd i ffwrdd oddi cartref: Mae’n gadael ei dŷ yng ngofal ei weision ac yn rhoi gwaith penodol i bob un, ac mae’n dweud wrth yr un sy’n gofalu am y drws i edrych allan amdano. “Gwyliwch felly, am eich bod chi ddim yn gwybod pryd fydd perchennog y tŷ yn dod yn ôl – gall ddod gyda’r nos, neu ganol nos, neu’n gynnar iawn yn y bore, neu ar ôl iddi wawrio. Bydd yn dod heb rybudd, felly peidiwch gadael iddo’ch dal chi’n cysgu. Dw i’n dweud yr un peth wrth bawb: ‘Gwyliwch!’”
Marc 13:14-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Ond pan welwch ‘y ffieiddbeth diffeithiol’ yn sefyll lle na ddylai fod” (dealled y darllenydd) “yna ffoed y rhai sydd yn Jwdea i'r mynyddoedd. Pwy bynnag sydd ar ben y tŷ, peidied â dod i lawr i fynd i mewn i gipio dim o'i dŷ; a phwy bynnag sydd yn y cae, peidied â throi yn ei ôl i gymryd ei fantell. Gwae'r gwragedd beichiog a'r rhai sy'n rhoi'r fron yn y dyddiau hynny! A gweddïwch na ddigwydd hyn yn y gaeaf, oblegid bydd y dyddiau hynny yn orthrymder na fu ei debyg o ddechrau'r greadigaeth a greodd Duw hyd yn awr, ac na fydd byth. Ac oni bai fod yr Arglwydd wedi byrhau'r dyddiau, ni fuasai neb byw wedi ei achub; ond er mwyn yr etholedigion a etholodd, fe fyrhaodd y dyddiau. Ac yna, os dywed rhywun wrthych, ‘Edrych, dyma'r Meseia’, neu, ‘Edrych, dacw ef’, peidiwch â'i gredu. Oherwydd fe gyfyd gau feseiau a gau broffwydi, a rhoddant arwyddion a rhyfeddodau i arwain ar gyfeiliorn yr etholedigion, petai hynny'n bosibl. Ond gwyliwch chwi; yr wyf wedi dweud y cwbl wrthych ymlaen llaw. “Ond yn y dyddiau hynny, ar ôl y gorthrymder hwnnw, “ ‘Tywyllir yr haul, ni rydd y lloer ei llewyrch, syrth y sêr o'r nef, ac ysgydwir y nerthoedd sydd yn y nefoedd.’ “A'r pryd hwnnw gwelant Fab y Dyn yn dyfod yn y cymylau gyda nerth mawr a gogoniant. Ac yna'r anfona ei angylion a chynnull ei etholedigion o'r pedwar gwynt, o eithaf y ddaear hyd at eithaf y nef. “Dysgwch wers oddi wrth y ffigysbren. Pan fydd ei gangen yn ir ac yn dechrau deilio, gwyddoch fod yr haf yn agos. Felly chwithau, pan welwch y pethau hyn yn digwydd, byddwch yn gwybod ei fod yn agos, wrth y drws. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid â'r genhedlaeth hon heibio nes i'r holl bethau hyn ddigwydd. Y nef a'r ddaear, ânt heibio, ond fy ngeiriau i, nid ânt heibio ddim. “Ond am y dydd hwnnw neu'r awr ni ŵyr neb, na'r angylion yn y nef, na'r Mab, neb ond y Tad. Gwyliwch, byddwch effro; oherwydd ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser. Y mae fel dyn a aeth oddi cartref, gan adael ei dŷ a rhoi awdurdod i'w weision, i bob un ei waith, a gorchymyn i'r porthor wylio. Byddwch wyliadwrus gan hynny—oherwydd ni wyddoch pa bryd y daw meistr y tŷ, ai gyda'r hwyr, ai ar hanner nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai yn fore— rhag ofn iddo ddod yn ddisymwth a'ch cael chwi'n cysgu. A'r hyn yr wyf yn ei ddweud wrthych chwi, yr wyf yn ei ddweud wrth bawb: byddwch wyliadwrus.”
Marc 13:14-37 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond pan weloch chwi y ffieidd-dra anghyfanheddol, yr hwn a ddywedwyd gan Daniel y proffwyd, wedi ei osod lle nis dylid, (y neb a ddarlleno, dealled;) yna y rhai a fyddant yn Jwdea, ffoant i’r mynyddoedd: A’r neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgynned i’r tŷ, ac nac aed i mewn i gymryd dim o’i dŷ. A’r neb a fyddo yn y maes, na throed yn ei ôl i gymryd ei wisg. Ond gwae’r rhai beichiog, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny! Ond gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf. Canys yn y dyddiau hynny y bydd gorthrymder, y cyfryw ni bu’r fath o ddechrau y creaduriaeth a greodd Duw, hyd y pryd hwn, ac ni bydd chwaith. Ac oni bai fod i’r Arglwydd fyrhau y dyddiau, ni chadwesid un cnawd: eithr er mwyn yr etholedigion a etholodd, efe a fyrhaodd y dyddiau. Ac yna os dywed neb wrthych, Wele, llyma y Crist; neu, Wele, acw; na chredwch: Canys gau Gristiau a gau broffwydi a gyfodant, ac a ddangosant arwyddion a rhyfeddodau, i hudo ymaith, pe byddai bosibl, ie, yr etholedigion. Eithr ymogelwch chwi: wele, rhagddywedais i chwi bob peth. Ond yn y dyddiau hynny, wedi’r gorthrymder hwnnw, y tywylla’r haul, a’r lloer ni rydd ei goleuni, A sêr y nef a syrthiant, a’r nerthoedd sydd yn y nefoedd a siglir. Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod yn y cymylau, gyda gallu mawr a gogoniant. Ac yna yr enfyn efe ei angylion, ac y cynnull ei etholedigion oddi wrth y pedwar gwynt, o eithaf y ddaear hyd eithaf y nef. Ond dysgwch ddameg oddi wrth y ffigysbren: Pan fo ei gangen eisoes yn dyner, a’r dail yn torri allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos: Ac felly chwithau, pan weloch y pethau hyn wedi dyfod, gwybyddwch ei fod yn agos, wrth y drysau. Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, nad â’r oes hon heibio, hyd oni wneler y pethau hyn oll. Nef a daear a ânt heibio: ond y geiriau mau fi nid ânt heibio ddim. Eithr am y dydd hwnnw a’r awr ni ŵyr neb, na’r angylion sydd yn y nef, na’r Mab, ond y Tad. Ymogelwch, gwyliwch a gweddïwch: canys ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser. Canys Mab y dyn sydd fel gŵr yn ymdaith i bell, wedi gadael ei dŷ, a rhoi awdurdod i’w weision, ac i bob un ei waith ei hun, a gorchymyn i’r drysor wylio. Gwyliwch gan hynny, (canys ni wyddoch pa bryd y daw meistr y tŷ, yn yr hwyr, ai hanner nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai’r boreddydd;) Rhag iddo ddyfod yn ddisymwth, a’ch cael chwi’n cysgu. A’r hyn yr wyf yn eu dywedyd wrthych chwi, yr wyf yn eu dywedyd wrth bawb, Gwyliwch.