Marc 11:12-21
Marc 11:12-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Y diwrnod wedyn, wrth adael Bethania, roedd Iesu eisiau bwyd. Gwelodd goeden ffigys ddeiliog yn y pellter, ac aeth i edrych rhag ofn bod ffrwyth arni. Ond doedd dim byd ond dail, am ei bod hi ddim yr adeg iawn o’r flwyddyn i’r ffigys fod yn barod. “Fydd neb yn bwyta dy ffrwyth di byth eto!” meddai Iesu. Clywodd y disgyblion beth ddwedodd e. Pan gyrhaeddodd Iesu Jerwsalem, aeth i gwrt y deml a dechrau gyrru allan bawb oedd yn prynu a gwerthu yn y farchnad yno. Gafaelodd ym myrddau’r rhai oedd yn cyfnewid arian a’u troi drosodd, a hefyd meinciau y rhai oedd yn gwerthu colomennod. Yna gwrthododd adael i unrhyw un gario pethau i’w gwerthu i mewn i’r deml. Yna dechreuodd eu dysgu, “Onid ydy’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi i’r holl genhedloedd.’ ? Ond dych chi wedi troi’r lle yn ‘guddfan i ladron’ !” Clywodd y prif offeiriaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith beth ddwedodd e, a mynd ati i geisio dod o hyd i ffordd i’w ladd. Roedden nhw’n ei weld yn fygythiad i’w hawdurdod, am fod y bobl wedi’u syfrdanu gan ei eiriau. Pan ddechreuodd hi nosi, dyma Iesu a’i ddisgyblion yn gadael y ddinas. Y bore wedyn roedden nhw’n pasio’r goeden ffigys eto. Roedd hi wedi gwywo’n llwyr! Cofiodd Pedr eiriau Iesu’r diwrnod cynt, ac meddai, “Rabbi, edrych! Mae’r goeden wnest ti ei melltithio wedi gwywo!”
Marc 11:12-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Trannoeth, wedi iddynt ddod allan o Fethania, daeth chwant bwyd arno. A phan welodd o bell ffigysbren ac arno ddail, aeth i edrych tybed a gâi rywbeth arno. A phan ddaeth ato ni chafodd ddim ond dail, oblegid nid oedd yn dymor ffigys. Dywedodd wrtho, “Peidied neb â bwyta ffrwyth ohonot ti byth mwy!” Ac yr oedd ei ddisgyblion yn gwrando. Daethant i Jerwsalem. Aeth i mewn i'r deml a dechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu a'r rhai oedd yn prynu yn y deml; taflodd i lawr fyrddau'r cyfnewidwyr arian a chadeiriau'r rhai oedd yn gwerthu colomennod, ac ni adawai i neb gludo dim trwy'r deml. A dechreuodd eu dysgu a dweud wrthynt, “Onid yw'n ysgrifenedig: “ ‘Gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd, ond yr ydych chwi wedi ei wneud yn ogof lladron’?” Clywodd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion am hyn, a dechreusant geisio ffordd i'w ladd ef, achos yr oedd arnynt ei ofn, gan fod yr holl dyrfa wedi ei syfrdanu gan ei ddysgeidiaeth. A phan aeth hi'n hwyr aethant allan o'r ddinas. Yn y bore, wrth fynd heibio, gwelsant y ffigysbren wedi crino o'r gwraidd. Cofiodd Pedr, a dywedodd wrtho, “Rabbi, edrych, y mae'r ffigysbren a felltithiaist wedi crino.”
Marc 11:12-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A thrannoeth, wedi iddynt ddyfod allan o Fethania, yr oedd arno chwant bwyd. Ac wedi iddo ganfod o hirbell ffigysbren ag arno ddail, efe a aeth i edrych a gaffai ddim arno. A phan ddaeth ato, ni chafodd efe ddim ond y dail: canys nid oedd amser ffigys. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Na fwytaed neb ffrwyth ohonot byth mwy. A’i ddisgyblion ef a glywsant. A hwy a ddaethant i Jerwsalem. A’r Iesu a aeth i’r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai a werthent ac a brynent yn y deml; ac a ymchwelodd drestlau’r arianwyr, a chadeiriau’r gwerthwyr colomennod: Ac ni adawai efe i neb ddwyn llestr trwy’r deml. Ac efe a’u dysgodd, gan ddywedyd wrthynt, Onid yw’n ysgrifenedig, Y gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i’r holl genhedloedd? ond chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron. A’r ysgrifenyddion a’r archoffeiriaid a glywsant hyn, ac a geisiasant pa fodd y difethent ef: canys yr oeddynt yn ei ofni ef, am fod yr holl bobl yn synnu oblegid ei athrawiaeth ef. A phan aeth hi yn hwyr, efe a aeth allan o’r ddinas. A’r bore, wrth fyned heibio, hwy a welsant y ffigysbren wedi crino o’r gwraidd. A Phedr wedi atgofio, a ddywedodd wrtho, Athro, wele y ffigysbren a felltithiaist, wedi crino.