Marc 10:13-16
Marc 10:13-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd pobl yn dod â’u plant bach at Iesu er mwyn iddo eu cyffwrdd a’u bendithio. Ond roedd y disgyblion yn dweud y drefn wrthyn nhw. Roedd Iesu’n ddig pan welodd nhw’n gwneud hynny. “Gadewch i’r plant bach ddod ata i,” meddai wrthyn nhw, “Peidiwch eu rhwystro, am mai rhai fel nhw sy’n derbyn teyrnasiad Duw. Credwch chi fi, heb ymddiried fel plentyn bach, wnewch chi byth ddod yn un o’r rhai mae Duw’n teyrnasu yn eu bywydau.” Yna cododd y plant yn ei freichiau, rhoi ei ddwylo arnyn nhw a’u bendithio.
Marc 10:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oeddent yn dod â phlant ato, iddo gyffwrdd â hwy. Ceryddodd y disgyblion hwy, ond pan welodd Iesu hyn aeth yn ddig, a dywedodd wrthynt, “Gadewch i'r plant ddod ataf fi; peidiwch â'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas Dduw yn perthyn. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag nad yw'n derbyn teyrnas Dduw yn null plentyn, nid â byth i mewn iddi.” A chymerodd hwy yn ei freichiau a'u bendithio, gan roi ei ddwylo arnynt.
Marc 10:13-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hwy a ddygasant blant bychain ato, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a’r disgyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt. A’r Iesu pan welodd hynny, fu anfodlon, ac a ddywedodd wrthynt, Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch iddynt: canys eiddo’r cyfryw rai yw teyrnas Dduw. Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid â efe i mewn iddi. Ac efe a’u cymerodd hwy yn ei freichiau, ac a roddes ei ddwylo arnynt, ac a’u bendithiodd.