Marc 10:1-12
Marc 10:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna gadawodd Iesu’r fan honno, a mynd i Jwdea a’r ardal yr ochr draw i’r Iorddonen. Unwaith eto daeth tyrfa o bobl ato, ac fel arfer buodd wrthi’n eu dysgu. Dyma Phariseaid yn dod ato i geisio’i faglu drwy ofyn: “Ydy’r Gyfraith yn dweud ei bod yn iawn i ddyn ysgaru ei wraig?” Atebodd Iesu, “Beth oedd y gorchymyn roddodd Moses i chi?” “Dwedodd Moses ei fod yn iawn,” medden nhw, “Dim ond i ddyn roi tystysgrif ysgariad iddi cyn ei hanfon i ffwrdd.” “Wyddoch chi pam ysgrifennodd Moses y ddeddf yna?” meddai Iesu. “Am fod pobl fel chi mor ystyfnig! Pan greodd Duw bopeth ar y dechrau cyntaf, gwnaeth bobl ‘yn wryw ac yn fenyw’. ‘Felly bydd dyn yn gadael ei dad a’i fam, ac yn cael ei uno â’i wraig, a bydd y ddau yn dod yn un.’ Dim dau berson ar wahân ydyn nhw wedyn, ond uned. Felly ddylai neb wahanu beth mae Duw wedi’i uno!” Pan oedden nhw yn ôl yn y tŷ, dyma’r disgyblion yn holi Iesu am hyn Dwedodd wrthyn nhw: “Mae unrhyw un sy’n ysgaru ei wraig er mwyn priodi gwraig arall yn godinebu.” (Ac os ydy gwraig yn ysgaru ei gŵr er mwyn priodi dyn arall, mae hithau’n godinebu.)
Marc 10:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cychwynnodd oddi yno a daeth i diriogaeth Jwdea a'r tu hwnt i'r Iorddonen. Daeth tyrfaoedd ynghyd ato drachefn, a thrachefn yn ôl ei arfer dechreuodd eu dysgu. A daeth Phariseaid ato a gofyn iddo a oedd yn gyfreithlon i ŵr ysgaru ei wraig; rhoi prawf arno yr oeddent. Atebodd yntau hwy gan ofyn, “Beth a orchmynnodd Moses i chwi?” Dywedasant hwythau, “Rhoddodd Moses ganiatâd i ysgrifennu llythyr ysgar a'i hanfon ymaith.” Ond meddai Iesu wrthynt, “Oherwydd eich ystyfnigrwydd yr ysgrifennodd ef y gorchymyn hwn ichwi. Ond o ddechreuad y greadigaeth, yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwy. Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn glynu wrth ei wraig, a bydd y ddau yn un cnawd. Gan hynny nid dau mohonynt mwyach, ond un cnawd. Felly, yr hyn a gysylltodd Duw, peidied neb ei wahanu.” Wedi mynd yn ôl i'r tŷ, holodd ei ddisgyblion ef ynghylch hyn. Ac meddai wrthynt, “Pwy bynnag sy'n ysgaru ei wraig ac yn priodi un arall, y mae'n godinebu yn ei herbyn hi; ac os bydd iddi hithau ysgaru ei gŵr a phriodi un arall, y mae hi'n godinebu.”
Marc 10:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a gyfododd oddi yno, ac a aeth i dueddau Jwdea, trwy’r tu hwnt i’r Iorddonen; a’r bobloedd a gydgyrchasant ato ef drachefn: ac fel yr oedd yn arferu, efe a’u dysgodd hwynt drachefn. A’r Phariseaid, wedi dyfod ato, a ofynasant iddo, Ai rhydd i ŵr roi ymaith ei wraig? gan ei demtio ef. Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Beth a orchmynnodd Moses i chwi? A hwy a ddywedasant, Moses a ganiataodd ysgrifennu llythyr ysgar, a’i gollwng hi ymaith. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, O achos eich calon-galedwch chwi yr ysgrifennodd efe i chwi y gorchymyn hwnnw: Ond o ddechreuad y creadigaeth, yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwynt. Am hyn y gad dyn ei dad a’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig; A hwy ill dau a fyddant un cnawd: fel nad ydynt mwy ddau, ond un cnawd. Y peth gan hynny a gysylltodd Duw, na wahaned dyn. Ac yn y tŷ drachefn ei ddisgyblion a ofynasant iddo am yr un peth. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy bynnag a roddo ymaith ei wraig, ac a briodo un arall, y mae yn godinebu yn ei herbyn hi. Ac os gwraig a ddyry ymaith ei gŵr, a phriodi un arall, y mae hi’n godinebu.