Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 1:45 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Marc 1:45 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Ond dyma’r dyn yn dechrau mynd o gwmpas yn dweud wrth bawb beth oedd wedi digwydd. O ganlyniad, doedd Iesu ddim yn gallu mynd a dod yn agored mewn unrhyw dref. Roedd yn aros allan mewn lleoedd unig. Ond roedd pobl yn dal i ddod ato o bob cyfeiriad!

Marc 1:45 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Ond aeth yntau allan a dechrau rhoi'r hanes i gyd ar goedd a'i daenu ar led, fel na allai Iesu mwyach fynd i mewn yn agored i unrhyw dref. Yr oedd yn aros y tu allan, mewn lleoedd unig, ac eto yr oedd pobl yn dod ato o bob cyfeiriad.

Marc 1:45 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Eithr efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi llawer, a thaenu’r gair ar led, fel na allai’r Iesu fyned mwy yn amlwg i’r ddinas; eithr yr oedd efe allan mewn lleoedd anghyfannedd: ac o bob parth y daethant ato ef.