Marc 1:35-39
Marc 1:35-39 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Y bore wedyn cododd Iesu’n gynnar iawn. Roedd hi’n dal yn dywyll pan adawodd y tŷ, ac aeth i le unig i weddïo. Dyma Simon a’r lleill yn mynd i edrych amdano, ac ar ôl dod o hyd iddo dyma nhw’n dweud yn frwd: “Mae pawb yn edrych amdanat ti!” Atebodd Iesu, “Gadewch i ni fynd yn ein blaenau i’r pentrefi nesa, i mi gael cyhoeddi’r newyddion da yno hefyd. Dyna pam dw i yma.” Felly teithiodd o gwmpas Galilea, yn pregethu yn y synagogau a bwrw cythreuliaid allan o bobl.
Marc 1:35-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bore trannoeth yn gynnar iawn, cododd ef ac aeth allan. Aeth ymaith i le unig, ac yno yr oedd yn gweddïo. Aeth Simon a'i gymdeithion i chwilio amdano; ac wedi dod o hyd iddo dywedasant wrtho, “Y mae pawb yn dy geisio di.” Dywedodd yntau wrthynt, “Awn ymlaen i'r trefi nesaf, imi gael pregethu yno hefyd; oherwydd i hynny y deuthum allan.” Ac fe aeth drwy holl Galilea gan bregethu yn eu synagogau hwy a bwrw allan gythreuliaid.
Marc 1:35-39 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r bore yn blygeiniol iawn, wedi iddo godi, efe a aeth allan, ac a aeth i le anghyfannedd; ac yno y gweddïodd. A Simon, a’r rhai oedd gydag ef, a’i dilynasant ef. Ac wedi iddynt ei gael ef, hwy a ddywedasant wrtho, Y mae pawb yn dy geisio di. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Awn i’r trefydd nesaf, fel y gallwyf bregethu yno hefyd: canys i hynny y deuthum allan. Ac yr oedd efe yn pregethu yn eu synagogau hwynt trwy holl Galilea, ac yn bwrw allan gythreuliaid.