Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Mathew 9:16 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Mathew 9:16 BNET (beibl.net 2015, 2024)

“Does neb yn trwsio hen ddilledyn gyda chlwt o frethyn newydd sydd heb shrincio. Byddai’r clwt o frethyn yn tynnu ar y dilledyn ac yn achosi rhwyg gwaeth.

Mathew 9:16 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Ni fydd neb yn gwnïo clwt o frethyn heb ei bannu ar hen ddilledyn; oherwydd fe dynn y clwt wrth y dilledyn, ac fe â'r rhwyg yn waeth.

Mathew 9:16 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Hefyd, ni ddyd neb lain o frethyn newydd at hen ddilledyn: canys y cyflawniad a dynn oddi wrth y dilledyn, a’r rhwyg a wneir yn waeth.