Mathew 7:7-9
Mathew 7:7-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Daliwch ati i ofyn a byddwch yn ei gael; chwiliwch a byddwch yn dod o hyd iddo; curwch ar y drws a bydd yn cael ei agor. Mae pawb sy’n gofyn yn derbyn; pawb sy’n chwilio yn cael; ac mae’r drws yn cael ei agor i bawb sy’n curo. “Pwy ohonoch chi fyddai’n rhoi carreg i’ch plentyn pan mae’n gofyn am fara?
Mathew 7:7-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, ac fe gewch; curwch, ac fe agorir i chwi. Oherwydd y mae pawb sy'n gofyn yn derbyn, a'r sawl sy'n ceisio yn cael, ac i'r un sy'n curo agorir y drws. Pwy ohonoch, os bydd ei blentyn yn gofyn am fara, a rydd iddo garreg?
Mathew 7:7-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe agorir i chwi: Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a’r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir. Neu a oes un dyn ohonoch, yr hwn os gofyn ei fab iddo fara, a rydd iddo garreg?