Mathew 7:7-14
Mathew 7:7-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Daliwch ati i ofyn a byddwch yn ei gael; chwiliwch a byddwch yn dod o hyd iddo; curwch ar y drws a bydd yn cael ei agor. Mae pawb sy’n gofyn yn derbyn; pawb sy’n chwilio yn cael; ac mae’r drws yn cael ei agor i bawb sy’n curo. “Pwy ohonoch chi fyddai’n rhoi carreg i’ch plentyn pan mae’n gofyn am fara? Neu neidr pan mae’n gofyn am bysgodyn? Felly os dych chi sy’n ddrwg yn gwybod sut i roi anrhegion da i’ch plant, mae’ch Tad yn y nefoedd yn siŵr o roi rhoddion da i’r rhai sy’n gofyn iddo! Dylech chi bob amser drin pobl eraill fel byddech chi’n hoffi iddyn nhw’ch trin chi. Mae’n egwyddor sy’n crynhoi popeth mae Cyfraith Moses ac ysgrifau’r proffwydi’n ei ddweud. “Ewch i mewn drwy’r fynedfa gul. Oherwydd mae’r fynedfa i’r ffordd sy’n arwain i ddinistr yn llydan. Mae’n ddigon hawdd dilyn y ffordd honno, ac mae llawer o bobl yn mynd arni. Ond mae’r fynedfa sy’n arwain i fywyd yn gul, a’r llwybr yn galed. Does ond ychydig o bobl yn dod o hyd iddi.
Mathew 7:7-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, ac fe gewch; curwch, ac fe agorir i chwi. Oherwydd y mae pawb sy'n gofyn yn derbyn, a'r sawl sy'n ceisio yn cael, ac i'r un sy'n curo agorir y drws. Pwy ohonoch, os bydd ei blentyn yn gofyn am fara, a rydd iddo garreg? Neu os bydd yn gofyn am bysgodyn, a rydd iddo sarff? Am hynny, os ydych chwi, sy'n ddrwg, yn medru rhoi rhoddion da i'ch plant, gymaint mwy y rhydd eich Tad sydd yn y nefoedd bethau da i'r rhai sy'n gofyn ganddo! Pa beth bynnag y dymunwch i eraill ei wneud i chwi, gwnewch chwithau felly iddynt hwy; hyn yw'r Gyfraith a'r proffwydi. “Ewch i mewn trwy'r porth cyfyng; oherwydd llydan yw'r porth ac eang yw'r ffordd sy'n arwain i ddistryw, a llawer yw'r rhai sy'n mynd ar hyd-ddi. Ond cyfyng yw'r porth a chul yw'r ffordd sy'n arwain i fywyd, ac ychydig yw'r rhai sy'n ei chael.
Mathew 7:7-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe agorir i chwi: Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a’r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir. Neu a oes un dyn ohonoch, yr hwn os gofyn ei fab iddo fara, a rydd iddo garreg? Ac os gofyn efe bysgodyn, a ddyry efe sarff iddo? Os chwychwi gan hynny, a chwi yn ddrwg, a fedrwch roddi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd bethau da i’r rhai a ofynnant iddo? Am hynny pa bethau bynnag oll a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy: canys hyn yw’r gyfraith a’r proffwydi. Ewch i mewn trwy’r porth cyfyng: canys eang yw’r porth, a llydan yw’r ffordd sydd yn arwain i ddistryw; a llawer yw’r rhai sydd yn myned i mewn trwyddi: Oblegid cyfyng yw’r porth, a chul yw’r ffordd, sydd yn arwain i’r bywyd; ac ychydig yw’r rhai sydd yn ei chael hi.