Mathew 7:14-15
Mathew 7:14-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond mae’r fynedfa sy’n arwain i fywyd yn gul, a’r llwybr yn galed. Does ond ychydig o bobl yn dod o hyd iddi. “Gwyliwch allan am broffwydi ffug. Bleiddiaid rheibus ydyn nhw go iawn, ond yn rhoi’r argraff i chi eu bod mor ddiniwed â defaid.
Rhanna
Darllen Mathew 7Mathew 7:14-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond cyfyng yw'r porth a chul yw'r ffordd sy'n arwain i fywyd, ac ychydig yw'r rhai sy'n ei chael. “Gochelwch rhag gau broffwydi, sy'n dod atoch yng ngwisg defaid, ond sydd o'u mewn yn fleiddiaid rheibus.
Rhanna
Darllen Mathew 7Mathew 7:14-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oblegid cyfyng yw’r porth, a chul yw’r ffordd, sydd yn arwain i’r bywyd; ac ychydig yw’r rhai sydd yn ei chael hi. Ymogelwch rhag gau broffwydi, y rhai a ddeuant atoch yng ngwisgoedd defaid, ond oddi mewn bleiddiaid rheibus ydynt hwy.
Rhanna
Darllen Mathew 7