Mathew 7:13-14
Mathew 7:13-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Ewch i mewn drwy’r fynedfa gul. Oherwydd mae’r fynedfa i’r ffordd sy’n arwain i ddinistr yn llydan. Mae’n ddigon hawdd dilyn y ffordd honno, ac mae llawer o bobl yn mynd arni. Ond mae’r fynedfa sy’n arwain i fywyd yn gul, a’r llwybr yn galed. Does ond ychydig o bobl yn dod o hyd iddi.
Mathew 7:13-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Ewch i mewn trwy'r porth cyfyng; oherwydd llydan yw'r porth ac eang yw'r ffordd sy'n arwain i ddistryw, a llawer yw'r rhai sy'n mynd ar hyd-ddi. Ond cyfyng yw'r porth a chul yw'r ffordd sy'n arwain i fywyd, ac ychydig yw'r rhai sy'n ei chael.
Mathew 7:13-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ewch i mewn trwy’r porth cyfyng: canys eang yw’r porth, a llydan yw’r ffordd sydd yn arwain i ddistryw; a llawer yw’r rhai sydd yn myned i mewn trwyddi: Oblegid cyfyng yw’r porth, a chul yw’r ffordd, sydd yn arwain i’r bywyd; ac ychydig yw’r rhai sydd yn ei chael hi.