Mathew 6:9-15
Mathew 6:9-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Dyma sut dylech chi weddïo: ‘Ein Tad sydd yn y nefoedd, dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu. Dŷn ni eisiau i ti ddod i deyrnasu, ac i’r cwbl sy’n dda yn dy olwg di ddigwydd yma ar y ddaear fel mae’n digwydd yn y nefoedd. Rho i ni ddigon o fwyd i’n cadw ni’n fyw am heddiw. Maddau i ni am bob dyled i ti yn union fel dŷn ni’n maddau i’r rhai sydd mewn dyled i ni. Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni’n cael ein profi, ac achub ni o afael y drwg.’ “Os gwnewch chi faddau i bobl pan maen nhw wedi gwneud cam â chi, bydd eich Tad nefol yn maddau i chi hefyd. Ond os na wnewch chi faddau i’r bobl sydd wedi gwneud cam â chi, fydd eich Tad ddim yn maddau’ch pechodau chi.
Mathew 6:9-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly, gweddïwch chwi fel hyn: “ ‘Ein Tad yn y nefoedd, sancteiddier dy enw; deled dy deyrnas; gwneler dy ewyllys, ar y ddaear fel yn y nef. Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol; a maddau inni ein troseddau, fel yr ŷm ni wedi maddau i'r rhai a droseddodd yn ein herbyn; a phaid â'n dwyn i brawf, ond gwared ni rhag yr Un drwg.’ “Oherwydd os maddeuwch i eraill eu camweddau, bydd eich Tad nefol hefyd yn maddau i chwi. Ond os na faddeuwch i eraill eu camweddau, ni fydd eich Tad chwaith yn maddau eich camweddau chwi.
Mathew 6:9-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny gweddïwch chwi fel hyn: Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy enw. Deled dy deyrnas. Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd. Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol. A maddau i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg. Canys eiddot ti yw’r deyrnas, a’r nerth, a’r gogoniant, yn oes oesoedd. Amen. Oblegid os maddeuwch i ddynion eu camweddau, eich Tad nefol a faddau hefyd i chwithau: Eithr oni faddeuwch i ddynion eu camweddau, ni faddau eich Tad eich camweddau chwithau.