Mathew 6:25-34
Mathew 6:25-34 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Felly, dyma dw i’n ddweud – peidiwch poeni beth i’w fwyta a beth i’w yfed a beth i’w wisgo. Onid oes mwy i fywyd na bwyd a dillad? Meddyliwch am adar er enghraifft: Dŷn nhw ddim yn hau nac yn medi nac yn storio mewn ysguboriau – ac eto mae eich Tad nefol yn eu bwydo nhw. Dych chi’n llawer mwy gwerthfawr na nhw. Allwch chi ddim hyd yn oed gwneud eich bywyd eiliad yn hirach drwy boeni! “A pham poeni am ddillad? Meddyliwch sut mae blodau gwyllt yn tyfu. Dydy blodau ddim yn gweithio nac yn nyddu. Ac eto, doedd hyd yn oed y Brenin Solomon yn ei ddillad crand ddim yn edrych mor hardd ag un ohonyn nhw. Os ydy Duw yn gofalu fel yna am flodau gwyllt (sy’n tyfu heddiw, ond yn cael eu llosgi fel tanwydd fory), mae’n siŵr o ofalu amdanoch chi! Ble mae’ch ffydd chi? Peidiwch poeni felly, a dweud, ‘Beth wnawn ni fwyta?’ neu ‘Beth wnawn ni yfed?’ neu ‘Beth wisgwn ni?’ Y paganiaid sy’n poeni am bethau felly. Mae’ch Tad nefol yn gwybod am bopeth sydd ei angen arnoch chi. Y flaenoriaeth i chi ydy gadael i Dduw deyrnasu yn eich bywydau a gwneud beth sy’n iawn yn ei olwg; wedyn byddwch yn cael y pethau eraill yma i gyd. Felly, peidiwch poeni am fory, cewch groesi’r bont honno pan ddaw. Mae’n well wynebu problemau un dydd ar y tro.
Mathew 6:25-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Am hynny rwy'n dweud wrthych, peidiwch â phryderu am eich bywyd, beth i'w fwyta na'i yfed, nac am eich corff, beth i'w wisgo; onid oes mwy i fywyd rhywun na bwyd, a mwy i'w gorff na dillad? Edrychwch ar adar yr awyr: nid ydynt yn hau nac yn medi nac yn casglu i ysguboriau, ac eto y mae eich Tad nefol yn eu bwydo. Onid ydych chwi yn llawer mwy gwerthfawr na hwy? P'run ohonoch a all ychwanegu un funud at ei oes trwy bryderu? A pham yr ydych yn pryderu am ddillad? Ystyriwch lili'r maes, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu. Ond rwy'n dweud wrthych, nid oedd gan hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant wisg i'w chymharu ag un o'r rhain. Os yw Duw yn dilladu felly laswellt y maes, sydd yno heddiw ac yfory yn cael ei daflu i'r ffwrn, onid llawer mwy y dillada chwi, chwi o ychydig ffydd? Peidiwch felly â phryderu a dweud, ‘Beth yr ydym i'w fwyta?’ neu ‘Beth yr ydym i'w yfed?’ neu ‘Beth yr ydym i'w wisgo?’ Dyna'r holl bethau y mae'r Cenhedloedd yn eu ceisio; y mae eich Tad nefol yn gwybod fod arnoch angen y rhain i gyd. Ond ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw a'i gyfiawnder ef, a rhoir y pethau hyn i gyd yn ychwaneg i chwi. Peidiwch felly â phryderu am yfory, oherwydd bydd gan yfory ei bryder ei hun. Digon i'r diwrnod ei drafferth ei hun.
Mathew 6:25-34 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny meddaf i chwi, Na ofelwch am eich bywyd, pa beth a fwytaoch, neu pa beth a yfoch; neu am eich corff, pa beth a wisgoch. Onid yw’r bywyd yn fwy na’r bwyd, a’r corff yn fwy na’r dillad? Edrychwch ar adar y nefoedd: oblegid nid ydynt yn hau, nac yn medi, nac yn cywain i ysguboriau; ac y mae eich Tad nefol yn eu porthi hwy. Onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy? A phwy ohonoch gan ofalu, a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli? A phaham yr ydych chwi yn gofalu am ddillad? Ystyriwch lili’r maes, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt nac yn llafurio nac yn nyddu: Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o’r rhai hyn. Am hynny os dillada Duw felly lysieuyn y maes, yr hwn sydd heddiw, ac yfory a fwrir i’r ffwrn, oni ddillada efe chwi yn hytrach o lawer, O chwi o ychydig ffydd? Am hynny na ofelwch, gan ddywedyd, Beth a fwytawn? neu, Beth a yfwn? neu, A pha beth yr ymddilladwn? (Canys yr holl bethau hyn y mae’r Cenhedloedd yn eu ceisio;) oblegid gŵyr eich Tad nefol fod arnoch eisiau’r holl bethau hyn. Eithr yn gyntaf ceisiwch deyrnas Dduw, a’i gyfiawnder ef, a’r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg. Na ofelwch gan hynny dros drannoeth: canys trannoeth a ofala am ei bethau ei hun. Digon i’r diwrnod ei ddrwg ei hun.