Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 6:25 - Compare All Versions

Mathew 6:25 BNET (beibl.net 2015, 2024)

“Felly, dyma dw i’n ddweud – peidiwch poeni beth i’w fwyta a beth i’w yfed a beth i’w wisgo. Onid oes mwy i fywyd na bwyd a dillad?

Mathew 6:25 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

“Am hynny rwy'n dweud wrthych, peidiwch â phryderu am eich bywyd, beth i'w fwyta na'i yfed, nac am eich corff, beth i'w wisgo; onid oes mwy i fywyd rhywun na bwyd, a mwy i'w gorff na dillad?

Mathew 6:25 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Am hynny meddaf i chwi, Na ofelwch am eich bywyd, pa beth a fwytaoch, neu pa beth a yfoch; neu am eich corff, pa beth a wisgoch. Onid yw’r bywyd yn fwy na’r bwyd, a’r corff yn fwy na’r dillad?