Mathew 5:43-48
Mathew 5:43-48 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Dych chi wedi clywed i hyn gael ei ddweud: ‘Rwyt i garu dy gymydog’ (ac ‘i gasáu dy elyn’). Ond dw i’n dweud wrthoch chi: Carwch eich gelynion a gweddïwch dros y rhai sy’n eich erlid chi! Wedyn byddwch yn dangos eich bod yn blant i’ch Tad yn y nefoedd, am mai dyna’r math o beth mae e’n ei wneud – mae’n gwneud i’r haul dywynnu ar y drwg a’r da, ac yn rhoi glaw i’r rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn a’r rhai sydd ddim. Pam dylech chi gael gwobr am garu’r bobl hynny sy’n eich caru chi? Onid ydy hyd yn oed y rhai sy’n casglu trethi i Rufain yn gwneud cymaint â hynny? Ac os mai dim ond eich teip chi o bobl dych chi’n eu cyfarch, beth dych chi’n ei wneud sy’n wahanol? Mae hyd yn oed y paganiaid yn gwneud hynny! Ond rhaid i chi fod yn berffaith, yn union fel mae’ch Tad nefol yn berffaith.
Mathew 5:43-48 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Clywsoch fel y dywedwyd, ‘Câr dy gymydog, a chasâ dy elyn.’ Ond rwyf fi'n dweud wrthych: carwch eich gelynion, a gweddïwch dros y rhai sy'n eich erlid; felly fe fyddwch yn blant i'ch Tad sydd yn y nefoedd, oherwydd y mae ef yn peri i'w haul godi ar y drwg a'r da, ac yn rhoi glaw i'r cyfiawn a'r anghyfiawn. Os carwch y rhai sy'n eich caru chwi, pa wobr sydd i chwi? Onid yw hyd yn oed y casglwyr trethi yn gwneud cymaint â hynny? Ac os cyfarchwch eich cydnabod yn unig, pa ragoriaeth sydd yn hynny? Onid yw'r Cenhedloedd hyd yn oed yn gwneud cymaint â hynny? Felly byddwch chwi'n berffaith fel y mae eich Tad nefol yn berffaith.
Mathew 5:43-48 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Clywsoch ddywedyd, Câr dy gymydog, a chasâ dy elyn. Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a’ch melltithiant, gwnewch dda i’r sawl a’ch casânt, a gweddïwch dros y rhai a wnêl niwed i chwi, ac a’ch erlidiant; Fel y byddoch blant i’ch Tad yr hwn sydd yn y nefoedd: canys y mae efe yn peri i’w haul godi ar y drwg a’r da, ac yn glawio ar y cyfiawn a’r anghyfiawn. Oblegid os cerwch y sawl a’ch caro, pa wobr sydd i chwi? oni wna’r publicanod hefyd yr un peth? Ac os cyferchwch well i’ch brodyr yn unig, pa ragoriaeth yr ydych chwi yn ei wneuthur? onid ydyw’r publicanod hefyd yn gwneuthur felly? Byddwch chwi gan hynny yn berffaith, fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith.