Mathew 5:3-6
Mathew 5:3-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Mae’r rhai sy’n teimlo’n dlawd ac annigonol wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd mae’r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau. Mae’r rhai sy’n galaru wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n cael eu cysuro. Mae’r rhai addfwyn sy’n cael eu gorthrymu wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n etifeddu’r ddaear. Mae’r rhai sy’n llwgu a sychedu am gyfiawnder wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n cael eu bodloni’n llwyr.
Mathew 5:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Gwyn eu byd y rhai sy'n dlodion yn yr ysbryd, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd. Gwyn eu byd y rhai sy'n galaru, oherwydd cânt hwy eu cysuro. Gwyn eu byd y rhai addfwyn, oherwydd cânt hwy etifeddu'r ddaear. Gwyn eu byd y rhai sy'n newynu a sychedu am gyfiawnder, oherwydd cânt hwy eu digon.
Mathew 5:3-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwyn eu byd y tlodion yn yr ysbryd: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru: canys hwy a ddiddenir. Gwyn eu byd y rhai addfwyn: canys hwy a etifeddant y ddaear. Gwyn eu byd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder: canys hwy a ddiwellir.