Mathew 5:13-16
Mathew 5:13-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Chi ydy halen y ddaear. Ond pan mae’r halen wedi colli ei flas pa obaith sydd i’w wneud yn hallt eto? Dydy e’n dda i ddim ond i’w daflu i ffwrdd a’i sathru dan draed. “Chi ydy’r golau sydd yn y byd. Mae’n amhosib cuddio dinas sydd wedi’i hadeiladu ar ben bryn. A does neb yn goleuo lamp i’w gosod o dan fowlen! Na, dych chi’n gosod lamp ar fwrdd er mwyn iddi roi golau i bawb yn y tŷ. Dyna sut dylai’ch golau chi ddisgleirio, er mwyn i bobl foli’ch Tad yn y nefoedd wrth weld y pethau da dych chi’n eu gwneud.
Mathew 5:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Chwi yw halen y ddaear; ond os cyll yr halen ei flas, â pha beth yr helltir ef? Nid yw'n dda i ddim bellach ond i'w luchio allan a'i sathru dan draed. Chwi yw goleuni'r byd. Ni ellir cuddio dinas a osodir ar fryn. Ac nid oes neb yn goleuo cannwyll ac yn ei rhoi dan lestr, ond yn hytrach ar ganhwyllbren, a bydd yn rhoi golau i bawb sydd yn y tŷ. Felly boed i'ch goleuni chwithau lewyrchu gerbron eraill, er mwyn iddynt weld eich gweithredoedd da chwi a gogoneddu eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd.
Mathew 5:13-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Chwi yw halen y ddaear: eithr o diflasodd yr halen, â pha beth yr helltir ef? ni thâl efe mwy ddim ond i’w fwrw allan, a’i sathru gan ddynion. Chwi yw goleuni’r byd. Dinas a osodir ar fryn, ni ellir ei chuddio. Ac ni oleuant gannwyll, a’i dodi dan lestr, ond mewn canhwyllbren; a hi a oleua i bawb sydd yn y tŷ. Llewyrched felly eich goleuni gerbron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.