Mathew 5:1-4
Mathew 5:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan welodd Iesu yr holl dyrfaoedd, aeth i fyny i ben y mynydd. Pan eisteddodd i lawr, daeth ei ddilynwyr ato, a dechreuodd eu dysgu, a dweud: “Mae’r rhai sy’n teimlo’n dlawd ac annigonol wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd mae’r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau. Mae’r rhai sy’n galaru wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n cael eu cysuro.
Mathew 5:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan welodd Iesu y tyrfaoedd, aeth i fyny'r mynydd, ac wedi iddo eistedd i lawr daeth ei ddisgyblion ato. Dechreuodd eu hannerch a'u dysgu fel hyn: “Gwyn eu byd y rhai sy'n dlodion yn yr ysbryd, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd. Gwyn eu byd y rhai sy'n galaru, oherwydd cânt hwy eu cysuro.
Mathew 5:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan welodd yr Iesu y tyrfaoedd, efe a esgynnodd i’r mynydd: ac wedi iddo eistedd, ei ddisgyblion a ddaethant ato. Ac efe a agorodd ei enau, ac a’u dysgodd hwynt, gan ddywedyd, Gwyn eu byd y tlodion yn yr ysbryd: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru: canys hwy a ddiddenir.