Mathew 5:1-3
Mathew 5:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan welodd Iesu yr holl dyrfaoedd, aeth i fyny i ben y mynydd. Pan eisteddodd i lawr, daeth ei ddilynwyr ato, a dechreuodd eu dysgu, a dweud: “Mae’r rhai sy’n teimlo’n dlawd ac annigonol wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd mae’r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.
Rhanna
Darllen Mathew 5Mathew 5:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan welodd Iesu y tyrfaoedd, aeth i fyny'r mynydd, ac wedi iddo eistedd i lawr daeth ei ddisgyblion ato. Dechreuodd eu hannerch a'u dysgu fel hyn: “Gwyn eu byd y rhai sy'n dlodion yn yr ysbryd, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.
Rhanna
Darllen Mathew 5Mathew 5:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan welodd yr Iesu y tyrfaoedd, efe a esgynnodd i’r mynydd: ac wedi iddo eistedd, ei ddisgyblion a ddaethant ato. Ac efe a agorodd ei enau, ac a’u dysgodd hwynt, gan ddywedyd, Gwyn eu byd y tlodion yn yr ysbryd: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd.
Rhanna
Darllen Mathew 5