Mathew 3:1-4
Mathew 3:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yr adeg yna dechreuodd Ioan Fedyddiwr bregethu yn anialwch Jwdea. Dyma’r neges oedd ganddo, “Trowch gefn ar bechod, achos mae’r Un nefol yn dod i deyrnasu.” Dyma pwy oedd y proffwyd Eseia wedi sôn amdano: “Llais yn gweiddi’n uchel yn yr anialwch, ‘Paratowch y ffordd i’r Arglwydd ddod! Gwnewch y llwybrau’n syth iddo!’” Roedd dillad Ioan wedi’u gwneud o flew camel gyda belt lledr am ei ganol, a’i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt.
Mathew 3:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn y dyddiau hynny daeth Ioan Fedyddiwr, gan bregethu'r genadwri hon yn anialwch Jwdea: “Edifarhewch, oherwydd y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos.” Dyma'r hwn y soniwyd amdano gan y proffwyd Eseia pan ddywedodd: “Llais un yn galw yn yr anialwch, ‘Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch y llwybrau iddo.’ ” Yr oedd dillad Ioan o flew camel, a gwregys o groen am ei ganol, a'i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt.
Mathew 3:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yn y dyddiau hynny y daeth Ioan Fedyddiwr, gan bregethu yn niffeithwch Jwdea, A dywedyd, Edifarhewch: canys nesaodd teyrnas nefoedd. Oblegid hwn yw efe yr hwn y dywedwyd amdano gan Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, Llef un yn llefain yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd; gwnewch yn union ei lwybrau ef. A’r Ioan hwnnw oedd â’i ddillad o flew camel, a gwregys o groen ynghylch ei lwynau: a’i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt.