Mathew 28:12-15
Mathew 28:12-15 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Yna aeth y prif offeiriaid i gyfarfod gyda’r arweinwyr eraill i drafod beth i’w wneud. Dyma nhw’n penderfynu talu swm mawr o arian i’r milwyr i ddweud celwydd. “Dyma beth dych chi i’w ddweud: medden nhw, ‘Daeth ei ddisgyblion yn ystod y nos a dwyn y corff tra oedden ni’n cysgu.’ Peidiwch poeni os bydd y llywodraethwr yn clywed y stori, deliwn ni gyda hynny a gwneud yn siŵr na chewch chi’ch cosbi.” Felly dymaʼr milwyr yn cymryd yr arian ac yn gwneud beth ddwedwyd wrthyn nhw. Dymaʼr stori sydd ar led ymhlith pobl Jwda hyd heddiw!
Mathew 28:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac wedi iddynt ymgynnull gyda'r henuriaid ac ymgynghori, rhoesant swm sylweddol o arian i'r milwyr, gan ddweud wrthynt, “Dywedwch fod ei ddisgyblion ef wedi dod yn y nos, a'i ladrata tra oeddech chwi'n cysgu. Ac os daw hyn i glyw y rhaglaw, fe'i perswadiwn ni ef a sicrhau na fydd raid ichwi bryderu.” Cymerodd y milwyr yr arian a gwneud fel y cawsant eu cyfarwyddo. Taenwyd y stori hon ar led ymysg Iddewon hyd y dydd heddiw.
Mathew 28:12-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi iddynt ymgasglu ynghyd gyda’r henuriaid, a chydymgynghori, hwy a roesant arian lawer i’r milwyr, Gan ddywedyd, Dywedwch, Ei ddisgyblion a ddaethant o hyd nos, ac a’i lladratasant ef, a nyni yn cysgu. Ac os clyw y rhaglaw hyn, ni a’i perswadiwn ef, ac a’ch gwnawn chwi yn ddiofal. A hwy a gymerasant yr arian, ac a wnaethant fel yr addysgwyd hwynt: a thaenwyd y gair hwn ymhlith yr Iddewon hyd y dydd heddiw.