Mathew 28:1-3
Mathew 28:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna’n gynnar fore Sul, pan oedd y Saboth Iddewig drosodd, a hithau’n dechrau gwawrio, dyma Mair Magdalen a’r Fair arall yn mynd i edrych ar y bedd. Yn sydyn roedd daeargryn mawr. Dyma angel yr Arglwydd yn dod i lawr o’r nefoedd a rholio’r garreg oddi ar geg y bedd ac eistedd arni. Roedd wyneb yr angel yn disgleirio’n llachar fel mellten, a’i ddillad yn wyn fel eira.
Mathew 28:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ar ôl y Saboth, a dydd cyntaf yr wythnos ar wawrio, daeth Mair Magdalen a'r Fair arall i edrych ar y bedd. A bu daeargryn mawr; daeth angel yr Arglwydd i lawr o'r nef, ac aeth at y maen a'i dreiglo i ffwrdd ac eistedd arno. Yr oedd ei wedd fel mellten a'i wisg yn wyn fel eira.
Mathew 28:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yn niwedd y Saboth, a hi yn dyddhau i’r dydd cyntaf o’r wythnos, daeth Mair Magdalen, a’r Fair arall, i edrych y bedd. Ac wele, bu daeargryn mawr: canys disgynnodd angel yr Arglwydd o’r nef, ac a ddaeth, ac a dreiglodd y maen oddi wrth y drws, ac a eisteddodd arno. A’i wynepryd oedd fel mellten, a’i wisg yn wen fel eira.