Mathew 27:27-35
Mathew 27:27-35 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma filwyr Rhufeinig yn mynd â Iesu i’r palas (Pencadlys y llywodraethwr), a galw’r holl fintai i gasglu o’i gwmpas. Dyma nhw’n tynnu ei ddillad a rhoi clogyn ysgarlad amdano, plethu drain i wneud coron i’w rhoi ar ei ben, rhoi gwialen yn ei law dde a phenlinio o’i flaen a gwneud hwyl am ei ben. “Eich mawrhydi! Brenin yr Iddewon!” medden nhw. Roedden nhw’n poeri arno, ac yn ei daro ar ei ben dro ar ôl tro gyda’r wialen. Pan oedden nhw wedi blino cael sbort, dyma nhw’n tynnu’r clogyn oddi arno a’i wisgo yn ei ddillad ei hun unwaith eto. Wedyn dyma nhw’n ei arwain allan i gael ei groeshoelio. Ar eu ffordd allan, daeth dyn o Cyrene o’r enw Simon i’w cyfarfod, a dyma’r milwyr yn ei orfodi i gario croes Iesu. Ar ôl cyrraedd y lle sy’n cael ei alw yn Golgotha (sef ‘Lle y Benglog’), dyma nhw’n cynnig diod o win wedi’i gymysgu gyda chyffur chwerw i Iesu, ond ar ôl ei flasu gwrthododd Iesu ei yfed. Ar ôl ei hoelio ar y groes, dyma nhw’n gamblo i weld pwy fyddai’n cael ei ddillad.
Mathew 27:27-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna cymerodd milwyr y rhaglaw Iesu i'r Praetoriwm a chynnull yr holl fintai o'i gwmpas. Wedi diosg ei ddillad, rhoesant glogyn ysgarlad amdano; plethasant goron o ddrain a'i gosod ar ei ben, a gwialen yn ei law dde. Aethant ar eu gliniau o'i flaen a'i watwar: “Henffych well, Frenin yr Iddewon!” Poerasant arno, a chymryd y wialen a'i guro ar ei ben. Ac wedi iddynt ei watwar, tynasant y clogyn oddi amdano a'i wisgo ef â'i ddillad ei hun, a mynd ag ef ymaith i'w groeshoelio. Wrth fynd allan daethant ar draws dyn o Cyrene o'r enw Simon, a gorfodi hwnnw i gario ei groes ef. Daethant i le a elwir Golgotha, hynny yw, “Lle Penglog”, ac yno rhoesant iddo i'w yfed win wedi ei gymysgu â bustl, ond ar ôl iddo ei brofi, gwrthododd ei yfed. Croeshoeliasant ef, ac yna rhanasant ei ddillad, gan fwrw coelbren
Mathew 27:27-35 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna milwyr y rhaglaw a gymerasant yr Iesu i’r dadleudy, ac a gynullasant ato yr holl fyddin. A hwy a’i diosgasant ef, ac a roesant amdano fantell o ysgarlad. A chwedi iddynt blethu coron o ddrain, hwy a’i gosodasant ar ei ben ef, a chorsen yn ei law ddeau; ac a blygasant eu gliniau ger ei fron ef, ac a’i gwatwarasant, gan ddywedyd, Henffych well, brenin yr Iddewon. A hwy a boerasant arno, ac a gymerasant y gorsen, ac a’i trawsant ar ei ben. Ac wedi iddynt ei watwar, hwy a’i diosgasant ef o’r fantell, ac a’i gwisgasant â’i ddillad ei hun, ac a’i dygasant ef ymaith i’w groeshoelio. Ac fel yr oeddynt yn myned allan, hwy a gawsant ddyn o Cyrene, a’i enw Simon; hwn a gymellasant i ddwyn ei groes ef. A phan ddaethant i le a elwid Golgotha, yr hwn a elwir, Lle’r benglog, Hwy a roesant iddo i’w yfed, finegr yn gymysgedig â bustl: ac wedi iddo ei brofi, ni fynnodd efe yfed. Ac wedi iddynt ei groeshoelio ef, hwy a ranasant ei ddillad, gan fwrw coelbren: er cyflawni’r peth a ddywedwyd trwy’r proffwyd, Hwy a ranasant fy nillad yn eu plith, ac ar fy ngwisg y bwriasant goelbren.