Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 27:1-31

Mathew 27:1-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Yn gynnar iawn yn y bore, dyma’r holl brif offeiriaid a’r arweinwyr Iddewig eraill yn penderfynu fod rhaid i Iesu gael ei ddedfrydu i farwolaeth. Felly, dyma nhw’n ei rwymo a’i drosglwyddo i Peilat, y llywodraethwr. Pan sylweddolodd Jwdas, y bradwr, fod Iesu’n mynd i gael ei ddienyddio, roedd yn edifar am beth wnaeth e. Aeth â’r tri deg darn arian yn ôl i’r prif offeiriaid a’r arweinwyr. “Dw i wedi pechu;” meddai, “dw i wedi bradychu dyn cwbl ddieuog.” “Sdim ots gynnon ni,” medden nhw, “Dy gyfrifoldeb di ydy hynny.” Felly dyma Jwdas yn taflu’r arian ar lawr y deml a mynd allan a chrogi ei hun. Dyma’r prif offeiriaid yn codi’r darnau arian. “Allwn ni ddim rhoi’r arian yma yn nhrysorfa’r deml. Mae yn erbyn y Gyfraith i dderbyn arian gafodd ei dalu am ladd rhywun.” Felly dyma nhw’n cytuno i ddefnyddio’r arian i brynu Maes y Crochenydd fel mynwent i gladdu pobl oedd ddim yn Iddewon. A dyna pam mai ‘Maes y Gwaed’ ydy’r enw arno hyd heddiw. A dyna sut daeth geiriau’r proffwyd Jeremeia yn wir: “Dyma nhw’n cymryd y tri deg darn arian (dyna oedd ei werth yng ngolwg pobl Israel), a phrynu maes y crochenydd, fel roedd yr Arglwydd wedi dweud.” Yn y cyfamser, roedd Iesu’n sefyll ei brawf o flaen y llywodraethwr Rhufeinig. Dyma Peilat yn dweud wrtho, “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?” “Ti sy’n dweud,” atebodd Iesu. Ond pan oedd y prif offeiriaid a’r arweinwyr yn cyflwyno eu hachos yn ei erbyn, roedd Iesu’n gwrthod ateb. A dyma Peilat yn gofyn iddo, “Wyt ti ddim yn clywed y cyhuddiadau yma sydd ganddyn nhw yn dy erbyn di?” Ond wnaeth Iesu ddim ateb hyd yn oed un cyhuddiad. Doedd y peth yn gwneud dim sens i’r llywodraethwr. Adeg y Pasg roedd hi’n arferiad gan y llywodraethwr i ryddhau un carcharor – un roedd y dyrfa’n ei ddewis. Ar y pryd, roedd un carcharor roedd pawb yn gwybod amdano – dyn o’r enw Barabbas. Felly pan oedd y dyrfa wedi ymgasglu, dyma Peilat yn gofyn iddyn nhw, “Pa un o’r ddau dych chi am i mi ei ollwng yn rhydd? Barabbas? neu Iesu, yr un sy’n cael ei alw ‘Y Meseia’?” (Roedd yn gwybod yn iawn eu bod wedi arestio Iesu am eu bod yn genfigennus ohono.) Roedd Peilat yno’n eistedd yn sedd y barnwr pan ddaeth neges iddo oddi wrth ei wraig: “Mae’r dyn yna’n ddieuog – paid gwneud dim byd iddo. Ces i hunllef ofnadwy amdano neithiwr.” Ond roedd y prif offeiriaid a’r arweinwyr Iddewig wedi bod yn perswadio’r dyrfa i ofyn am ryddhau Barabbas, er mwyn gwneud yn siŵr fod Iesu’n cael ei ddienyddio. Gofynnodd y llywodraethwr eto, “Pa un o’r ddau yma dych chi eisiau i mi ei ryddhau?” Dyma nhw’n ateb, “Barabbas!” “Felly, beth dw i i’w wneud gyda’r Iesu yma, sy’n cael ei alw ‘Y Meseia’?” Dyma nhw i gyd yn gweiddi, “Ei groeshoelio!” “Pam?” meddai Peilat, “Beth mae e wedi’i wneud o’i le?” Ond dyma nhw’n dechrau gweiddi’n uwch, “Croeshoelia fe!” Dyma Peilat yn gweld fod dim pwynt cario ymlaen am fod y dyrfa’n dechrau cynhyrfu. Felly galwodd am ddŵr, a golchi ei ddwylo o flaen pawb. “Dim fi sy’n gyfrifol am ladd y dyn yma,” meddai. “Chi sy’n gyfrifol!” Dyma’r bobl yn ateb gyda’i gilydd, “Iawn, ni fydd yn gyfrifol am y peth – ni a’n plant!” Felly dyma Peilat yn rhyddhau Barabbas iddyn nhw. Wedyn gorchmynnodd fod Iesu i gael ei chwipio, ac yna ei ddedfrydu i gael ei groeshoelio. Dyma filwyr Rhufeinig yn mynd â Iesu i’r palas (Pencadlys y llywodraethwr), a galw’r holl fintai i gasglu o’i gwmpas. Dyma nhw’n tynnu ei ddillad a rhoi clogyn ysgarlad amdano, plethu drain i wneud coron i’w rhoi ar ei ben, rhoi gwialen yn ei law dde a phenlinio o’i flaen a gwneud hwyl am ei ben. “Eich mawrhydi! Brenin yr Iddewon!” medden nhw. Roedden nhw’n poeri arno, ac yn ei daro ar ei ben dro ar ôl tro gyda’r wialen. Pan oedden nhw wedi blino cael sbort, dyma nhw’n tynnu’r clogyn oddi arno a’i wisgo yn ei ddillad ei hun unwaith eto. Wedyn dyma nhw’n ei arwain allan i gael ei groeshoelio.

Mathew 27:1-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Pan ddaeth yn ddydd, cynllwyniodd yr holl brif offeiriaid a henuriaid y bobl yn erbyn Iesu i'w roi i farwolaeth. Rhwymasant ef a mynd ag ef ymaith a'i drosglwyddo i Pilat, y rhaglaw. Yna pan welodd Jwdas, ei fradychwr, fod Iesu wedi ei gondemnio, bu'n edifar ganddo ac aeth â'r deg darn arian ar hugain yn ôl at y prif offeiriaid a'r henuriaid. Dywedodd, “Pechais trwy fradychu dyn dieuog.” “Beth yw hynny i ni?” meddent hwy. “Rhyngot ti a hynny.” A thaflodd Jwdas yr arian i lawr yn y deml ac ymadael; aeth ymaith, ac fe'i crogodd ei hun. Wedi iddynt dderbyn yr arian, dywedodd y prif offeiriaid, “Nid yw'n gyfreithlon ei roi yn nhrysorfa'r deml, gan mai pris gwaed ydyw.” Ac wedi ymgynghori, prynasant Faes y Crochenydd â'r arian, fel mynwent i ddieithriaid. Dyna pam y gelwir y maes hwnnw hyd heddiw yn Faes y Gwaed. Felly y cyflawnwyd y gair a lefarwyd trwy Jeremeia'r proffwyd: “Cymerasant y deg darn arian ar hugain, pris y sawl y rhoddodd rhai o blant Israel bris arno, a'u gwario i brynu maes y crochenydd, fel y gorchmynnodd yr Arglwydd i mi.” Safodd Iesu gerbron y rhaglaw; a holodd y rhaglaw ef: “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Atebodd Iesu, “Ti sy'n dweud hynny.” A phan gyhuddwyd ef gan y prif offeiriaid a'r henuriaid, nid atebodd ddim. Yna meddai Pilat wrtho, “Onid wyt yn clywed faint o dystiolaeth y maent yn ei dwyn yn dy erbyn?” Ond ni roes ef iddo ateb i gymaint ag un cyhuddiad, er syndod mawr i'r rhaglaw. Ar yr ŵyl yr oedd y rhaglaw yn arfer rhyddhau i'r dyrfa un carcharor o'u dewis hwy. A'r pryd hwnnw yr oedd carcharor adnabyddus yn y ddalfa, o'r enw Iesu Barabbas. Felly, wedi iddynt ymgynnull, gofynnodd Pilat iddynt, “Pwy a fynnwch i mi ei ryddhau i chwi, Iesu Barabbas ynteu Iesu a elwir y Meseia?” Oherwydd gwyddai mai o genfigen y traddodasant ef. A thra oedd Pilat yn eistedd ar y brawdle anfonodd ei wraig neges ato, yn dweud, “Paid â chael dim i'w wneud â'r dyn cyfiawn yna, oherwydd cefais lawer o ofid mewn breuddwyd neithiwr o'i achos ef.” Ond perswadiodd y prif offeiriaid a'r henuriaid y tyrfaoedd i ofyn am ryddhau Barabbas a rhoi Iesu i farwolaeth. Atebodd y rhaglaw gan ofyn iddynt, “P'run o'r ddau a fynnwch i mi ei ryddhau i chwi?” “Barabbas,” meddent hwy. “Beth, ynteu, a wnaf â Iesu a elwir y Meseia?” gofynnodd Pilat iddynt. Atebasant i gyd, “Croeshoelier ef.” “Ond pa ddrwg a wnaeth ef?” meddai yntau. Gwaeddasant hwythau yn uwch byth, “Croeshoelier ef.” Pan welodd Pilat nad oedd dim yn tycio ond yn hytrach bod cynnwrf yn codi, cymerodd ddŵr, a golchodd ei ddwylo o flaen y dyrfa, a dweud, “Yr wyf fi'n ddieuog o waed y dyn hwn; chwi fydd yn gyfrifol.” Ac atebodd yr holl bobl, “Boed ei waed arnom ni ac ar ein plant.” Yna rhyddhaodd Pilat iddynt Barabbas, a thraddododd Iesu, ar ôl ei fflangellu, i'w groeshoelio. Yna cymerodd milwyr y rhaglaw Iesu i'r Praetoriwm a chynnull yr holl fintai o'i gwmpas. Wedi diosg ei ddillad, rhoesant glogyn ysgarlad amdano; plethasant goron o ddrain a'i gosod ar ei ben, a gwialen yn ei law dde. Aethant ar eu gliniau o'i flaen a'i watwar: “Henffych well, Frenin yr Iddewon!” Poerasant arno, a chymryd y wialen a'i guro ar ei ben. Ac wedi iddynt ei watwar, tynasant y clogyn oddi amdano a'i wisgo ef â'i ddillad ei hun, a mynd ag ef ymaith i'w groeshoelio.

Mathew 27:1-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A phan ddaeth y bore, cydymgynghorodd yr holl archoffeiriaid, a henuriaid y bobl, yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth. Ac wedi iddynt ei rwymo, hwy a’i dygasant ef ymaith, ac a’i traddodasant ef i Pontius Peilat y rhaglaw. Yna pan welodd Jwdas, yr hwn a’i bradychodd ef, ddarfod ei gondemnio ef, bu edifar ganddo, ac a ddug drachefn y deg ar hugain arian i’r archoffeiriaid a’r henuriaid, Gan ddywedyd, Pechais, gan fradychu gwaed gwirion. Hwythau a ddywedasant, Pa beth yw hynny i ni? edrych di. Ac wedi iddo daflu’r arian yn y deml, efe a ymadawodd, ac a aeth ac a ymgrogodd. A’r archoffeiriaid a gymerasant yr arian, ac a ddywedasant, Nid cyfreithlon i ni eu bwrw hwynt yn y drysorfa; canys gwerth gwaed ydyw. Ac wedi iddynt gydymgynghori, hwy a brynasant â hwynt faes y crochenydd, yn gladdfa dieithriaid. Am hynny y galwyd y maes hwnnw, Maes y gwaed, hyd heddiw. (Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd trwy Jeremeias y proffwyd, gan ddywedyd, A hwy a gymerasant y deg ar hugain arian, pris y prisiedig, yr hwn a brynasant gan feibion Israel; Ac a’u rhoesant hwy am faes y crochenydd, megis y gosododd yr Arglwydd i mi.) A’r Iesu a safodd gerbron y rhaglaw: a’r rhaglaw a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd. A phan gyhuddid ef gan yr archoffeiriaid a’r henuriaid, nid atebodd efe ddim. Yna y dywedodd Peilat wrtho, Oni chlywi di faint o bethau y maent hwy yn eu tystiolaethu yn dy erbyn di? Ac nid atebodd efe iddo i un gair; fel y rhyfeddodd y rhaglaw yn fawr. Ac ar yr ŵyl honno yr arferai’r rhaglaw ollwng yn rhydd i’r bobl un carcharor, yr hwn a fynnent. Ac yna yr oedd ganddynt garcharor hynod, a elwid Barabbas. Wedi iddynt gan hynny ymgasglu ynghyd, Peilat a ddywedodd wrthynt, Pa un a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Barabbas, ai’r Iesu, yr hwn a elwir Crist? Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasent ef. Ac efe yn eistedd ar yr orseddfainc, ei wraig a ddanfonodd ato, gan ddywedyd, Na fydded i ti a wnelych â’r cyfiawn hwnnw: canys goddefais lawer heddiw mewn breuddwyd o’i achos ef. A’r archoffeiriaid a’r henuriaid a berswadiasant y bobl, fel y gofynnent Barabbas, ac y difethent yr Iesu. A’r rhaglaw a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa un o’r ddau a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Hwythau a ddywedasant, Barabbas. Peilat a ddywedodd wrthynt, Pa beth gan hynny a wnaf i’r Iesu, yr hwn a elwir Crist? Hwythau oll a ddywedasant wrtho, Croeshoelier ef. A’r rhaglaw a ddywedodd, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? Hwythau a lefasant yn fwy, gan ddywedyd, Croeshoelier ef. A Peilat, pan welodd nad oedd dim yn tycio, ond yn hytrach bod cynnwrf, a gymerth ddwfr, ac a olchodd ei ddwylo gerbron y bobl, gan ddywedyd, Dieuog ydwyf fi oddi wrth waed y cyfiawn hwn: edrychwch chwi. A’r holl bobl a atebodd ac a ddywedodd, Bydded ei waed ef arnom ni, ac ar ein plant. Yna y gollyngodd efe Barabbas yn rhydd iddynt: ond yr Iesu a fflangellodd efe, ac a’i rhoddes i’w groeshoelio. Yna milwyr y rhaglaw a gymerasant yr Iesu i’r dadleudy, ac a gynullasant ato yr holl fyddin. A hwy a’i diosgasant ef, ac a roesant amdano fantell o ysgarlad. A chwedi iddynt blethu coron o ddrain, hwy a’i gosodasant ar ei ben ef, a chorsen yn ei law ddeau; ac a blygasant eu gliniau ger ei fron ef, ac a’i gwatwarasant, gan ddywedyd, Henffych well, brenin yr Iddewon. A hwy a boerasant arno, ac a gymerasant y gorsen, ac a’i trawsant ar ei ben. Ac wedi iddynt ei watwar, hwy a’i diosgasant ef o’r fantell, ac a’i gwisgasant â’i ddillad ei hun, ac a’i dygasant ef ymaith i’w groeshoelio.