Mathew 26:8-10
Mathew 26:8-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd y disgyblion yn wyllt pan welon nhw hi’n gwneud hyn. “Am wastraff!” medden nhw, “Gallai rhywun fod wedi gwerthu’r persawr yna am arian mawr, a rhoi’r cwbl i bobl dlawd.” Roedd Iesu’n gwybod beth oedden nhw’n ei ddweud, ac meddai wrthyn nhw, “Gadewch lonydd i’r wraig! Mae hi wedi gwneud peth hyfryd.
Mathew 26:8-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan welodd y disgyblion hyn, aethant yn ddig a dweud, “I ba beth y bu'r gwastraff hwn? Oherwydd gallesid gwerthu'r ennaint hwn am lawer o arian a'i roi i'r tlodion.” Sylwodd Iesu ar hyn a dywedodd wrthynt, “Pam yr ydych yn poeni'r wraig? Oherwydd gweithred brydferth a wnaeth hi i mi.
Mathew 26:8-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan welodd ei ddisgyblion, hwy a sorasant, gan ddywedyd, I ba beth y bu’r golled hon? Canys fe a allasid gwerthu’r ennaint hwn er llawer, a’i roddi i’r tlodion. A’r Iesu a wybu, ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthur blinder i’r wraig? canys hi a weithiodd weithred dda arnaf.